Cyhoeddi rhagor o fanylion am y Cronfa Argyfwng Treftadaeth

Cyhoeddi rhagor o fanylion am y Cronfa Argyfwng Treftadaeth

Eilish McGuinness
Dyma Eilish McGuinness yn rhoi rhagor o fanylion ar sut i wneud cais am y Gronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50miliwn. Rydym yn cyhoeddi ein canllawiau heddiw.

Ers fy blog yn cyhoeddi ein hymateb i bandemig coronafeirws (COVID-19), rydym wedi bod yn gweithio'n galed i lunio'r pwyntiau mwy manwl o sut rydym yn cefnogi'r gymuned dreftadaeth.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein harweiniad ynghylch gwneud cais am arian drwy'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth.

Y peth allweddol i'w wybod yw bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn:

  • sefydliad dielw, a
  • derbynnydd presennol neu flaenorol o grant yn uniongyrchol gennym, a
  • perchennog, rheolwr neu gynrychiolydd treftadaeth, neu sydd â hanes o ddangos tystiolaeth o gyflawni gweithgarwch treftadaeth cyfranogol

Gallwch ddarllen y canllawiau yn llawn ar ein gwefan. Byddwn yn parhau i'w hadolygu ac yn ei ddiweddaru'n rheolaidd.

Pryd i wneud cais

Cofiwch, nid yw ceisiadau'n agor am wythnos arall – ddydd Mercher 15 Ebrill – a gallwch wneud cais ar unrhyw amser hyd at 30 Mehefin.

Gwyddom fod y cyfnod yma wedi bod yn llawn straen ac y bydd llawer ohonoch yn teimlo bod angen rhuthro i wneud cais, ond mae'n rhaid i chi gymryd amser i feddwl o ddifrif am y cymorth sydd ei angen arnoch er mwyn i’ch sefydliad oroesi drwy'r ychydig fisoedd nesaf.

Rydym yn cydnabod na fyddwn yn gallu helpu pawb. Rydym am i'r gronfa frys hon helpu cynifer o sefydliadau yn y sector treftadaeth ag sy'n bosibl drwy'r argyfwng hwn. I wneud hynny mae angen eich help arnom drwy ofyn i chi ofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer anghenion uniongyrchol yn unig, fel bod ein cefnogaeth yn gallu helpu ein teulu treftadaeth ledled y DU.

Felly beth nesaf?

Darllenwch y canllawiau newydd a sicrhewch os ydych yn dymuno gwneud cais am arian, eich bod yn gymwys.

Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin diweddaraf gan y byddant yn helpu i lywio eich dealltwriaeth o'r gronfa a chefnogi eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'ch timau lleol sy'n barod i'ch helpu cyn belled ag y bo modd.

Bydd mwy o fanylion i ddilyn, nid yn unig am gyllid ond am weddill ein cefnogaeth i'r sector treftadaeth, gan gynnwys ein Menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth.

Sicrhewch nad ydych yn colli allan ar unrhyw gyhoeddiadau pellach drwy ymuno â'n cylchlythyr a'n dilyn ni ar TwitterFacebook ac Instagram.

Ac wrth gwrs, daliwch ati i siarad gyda ni – Rydyn ni'n gwrando.

Cadwch yn saff ac yn iach.

Eilish

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...