Sut rydym yn bwriadu buddsoddi dros £1biliwn rhwng 2023 a 2026
Pan wnaethom gyhoeddi ein strategaeth 10 mlynedd newydd, Treftadaeth 2033, ym mis Mawrth, bu i ni gyflwyno ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.
Heddiw, mae ein cynllun cyflwyno cyntaf yn nodi sut, dros y tair blynedd nesaf, yr ydym yn bwriadu buddsoddi £870miliwn drwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a £140m pellach mewn mentrau strategol i wneud gwahaniaeth pendant ar gyfer lleoedd, natur a threftadaeth mewn angen.
Mewn partneriaeth ag adrannau yng Nghymru a Lloegr, byddwn hefyd yn dosbarthu mwy na £43m o gyllid y llywodraeth yn 2023–2024 yn unig.
Gwneud ceisiadau yn haws
Fel rhan o bontio o’n Fframwaith Ariannu Strategol 2019–2024 presennol i ddarparu grantiau o dan Treftadaeth 2033, rydym yn symleiddio ein proses ymgeisio, gan ei wneud yn fwy cymesur i'r swm o arian yr ydych yn gofyn amdano.
Ymateb i'ch adborth
Gwyddom fod chwyddiant a'r argyfwng costau byw yn ei gwneud yn anodd i ddarparu prosiectau treftadaeth o ansawdd uchel. Ym mis Mai, bu i ni godi terfyn uchaf ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i £10miliwn. Ac o fis Ionawr 2024, bydd y trothwy is yn codi i £10,000.
Rydym yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer darparu grantiau o dan £10,000 drwy sefydliadau a mentrau eraill, gan sicrhau y gall ein hariannu gyrraedd y cymunedau y mae arnynt ei angen fwyaf.
Dywedodd Anne Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyflwyno Busnes y Gronfa Treftadaeth: “Cafodd Treftadaeth 2033 ei siapio gan adborth rhanddeiliaid. Gwnaethoch chi ddweud wrthym bod cydnerthedd ariannol yn allweddol ac y gallai ein prosesau fod yn symlach. Byddwn yn ymateb drwy symleiddio ein ceisiadau am grantiau rhwng £10,000 a £10m a thrwy barhau i gefnogi sefydliadau i ddatblygu’r sgiliau a’r capasiti i sicrhau dyfodol hirdymor cadarn. Bydd ein timau wrth law i gefnogi ymgeiswyr trwy gydol y flwyddyn bontio hon a thu hwnt.”
Wrth i ni wneud y newidiadau hyn, bydd cyfnod byr pan fydd grantiau hyd at £250,000 ar gau i geisiadau.
Dyddiadau pwysig i ymgeiswyr
Ar gyfer grantiau rhwng £250,000 a £10m:
- 12 hanner dydd ar 16 Tachwedd 2023: ceisiadau datblygu olaf o dan y Fframwaith Ariannu Strategol (FfAS) presennol
- ni effeithir ar geisiadau'r rownd gyflwyno a Mynegiadau o Ddiddordeb, a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth i ymgeiswyr ynghylch pontio i’n hegwyddorion buddsoddi Treftadaeth 2033 newydd
Ar gyfer grantiau rhwng £10,000 a £250,000:
- 12 hanner dydd ar 3 Tachwedd 2023: ffurflenni ymholiad prosiect a cheisiadau olaf o dan FfAS
Ar gyfer grantiau rhwng £3,000 a £10,000:
- 12 hanner dydd ar 1 Rhagfyr 2023: ceisiadau olaf am grantiau o dan £10,000
O fis Ionawr 2024, byddwn yn agor y ceisiadau cyntaf am grantiau rhwng £10,000 a £10m o dan Treftadaeth 2033, gydag arweiniad a ffurflenni cais newydd.
Mae'r holl derfynau ymgeisio a dyddiadau gwneud penderfyniadau a gyhoeddwyd heb gael eu newid.
Mentrau newydd
Yn y misoedd i ddod, gallwch ddisgwyl clywed mwy am gyflwyno rhai o'n mentrau strategol a nodwyd yn y cynllun cyflwyno.
Yn yr hydref, byddwn yn cyhoeddi’r naw cyntaf o’r 20 o leoliadau ar draws y DU lle byddwn yn buddsoddi i drawsnewid treftadaeth, adfywio economïau a hybu balchder lleol drwy ein menter Lle.
Ac yn y gaeaf, byddwn yn cyhoeddi manylion ein partneriaeth i gyflwyno adferiad natur drefol trwy ein menter Dinasoedd a Threfi Natur.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth: “Mae'n bleser gennyf rannu ein cynllun cyflwyno tair blynedd cyntaf gyda chi heddiw. Mae’n nodi’r cerrig milltir allweddol ar gyfer cyflwyno ein strategaeth newydd uchelgeisiol a phontio i weithredu o dan ein pedair egwyddor fuddsoddi newydd.
“Datblygwyd Treftadaeth 2033 gyda’ch mewnbwn chi, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â chi i gyflwyno ein gweledigaeth ar y cyd ar gyfer treftadaeth dros y blynyddoedd i ddod.”
Mwy o wybodaeth
Bwrw golwg yn llawn ar ein cynllun cyflwyno tair blynedd cyntaf. Fe'i dylunnir i fod yn hyblyg ac fe gaiff ei ddiweddaru'n flynyddol fel rhan o'n prosesau cynllunio busnes.