Sut mae’r Loteri Genedlaethol wedi helpu amgueddfeydd Cymru
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cynnig y cyfan yn ystod wythnos hanner tymor. Bydd anturiaethau yng ngolau lamp o gwmpas amgueddfeydd gyda’r nos, sawl dirgelwch hanesyddol i’w ddatrys, gweithdai crefft a hwyl a hafoc Calan Gaeaf. Ac os nad yw hynny’n ddigon, bydd sgyrsiau, darlithoedd, cyfleoedd i rannu a chofnodi atgofion a chipolwg prin tu ôl i’r llenni mewn amgueddfeydd ledled Cymru.
Ni fyddai hyn oll yn bosibl heb ymroddiad a gwaith caled staff a gwirfoddolwyr amgueddfeydd sy’n ymdrechu i wneud yr adeiladau anhygoel hyn yn ddeniadol i bobl o bob oed.
Ac wrth iddi ddathlu ei 25ain Pen-blwydd, mae’n rhaid inni hefyd ddiolch yn fawr i’r Loteri Genedlaethol. Mae cyfraniad chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn amlwg iawn yn y sector treftadaeth, yn enwedig yma yng Nghymru.
Lle sydd yng nghalon y gymuned
Sain Ffagan
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan sydd wedi derbyn y grant fwyaf yng Nghymru ers 1994 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – bron i £12miliwn – a wnaeth ei galluogi i ddathlu ei 70fed pen-blwydd mewn steil a’i helpu i ennill gwobr boblogaidd Amgueddfa’r Flwyddyn 2019.
Nid yw mwyafrif y grantiau mor fawr â hynny, wrth gwrs, ond mae eu heffaith yr un mor bwysig i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Amgueddfa Ceredigion
Ystyriwch, er enghraifft, y ffordd mae Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth wedi defnyddio ei buddsoddiad i’w galluogi i ddenu cynulleidfaoedd newydd drwy ddarparu mynediad digidol at dreftadaeth a hwyluso gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd.
Amgueddfa Penmaenmawr
Neu’r modd mae Amgueddfa Penmaenmawr yn Nghonwy wedi sylweddoli bod angen adleoli er mwyn bod yng nghalon y gymuned. Yn ei lleoliad newydd, mae’n darparu gwasanaeth tyngedfennol i bobl leol ac ymwelwyr.
Blaenafon
Neu sut y bu i Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenau Gwent fod yn gatalydd i adfywiad ehangach Blaenafon.
Rockfield
A sut y cymerodd pobl ifanc reolaeth dros greu arddangosfa ryngweithiol arbennig am stiwdio recordio enwog Rockfield yn Sir Fynwy, a gafodd ei chynnal am gyfnod hwy na’r disgwyl oherwydd ei phoblogrwydd gydag ymwelwyr.
Amgueddfa Stori Caerdydd
Ac mae Amgueddfa Stori Caerdydd yn un o nifer ledled Cymru sy’n croesawu cydweithio, gan ddefnyddio ei buddsoddiad i greu hyd yn oed mwy o bartneriaethau ystyrlon ac ymarferol gyda grwpiau gwirfoddol lleol, gan gyfoethogi’r hyn mae’n ei gynnig i ymwelwyr a’r gymuned ymhellach.
Mae’r rhain i gyd yn esiamplau gwych ac yn ddim ond rhan fechan o’r gweithgareddau gaiff eu cynnal bob dydd.
Mae croeso i bob lliw a llun
Beth sydd hyd yn oed yn fwy anhygoel yw y caiff y gwaith hwn ei gyflawni yn wyneb hinsawdd ariannol heriol dros ben. Mae effaith y cyfnod diweddar hwn o galedi wedi cael ei theimlo i’r byw yn y sector treftadaeth ble mae cyllidebau’n cael eu torri’n sylweddol.
Ond mae’n rhaid cofio mai nid darparu adloniant a mwynhad yn unig yw swyddogaeth ein hamgueddfeydd.
Mae ymweliadau ag amgueddfeydd Cymru yn cyfrannu bron i £80m i’n heconomi bob blwyddyn. Hefyd, maen nhw’n cyfrannu’n gadarnhaol at gyflogaeth a datblygiad gyrfa ac mae ymchwil yn dangos bod ymweld ag amgueddfeydd yn gwella ein lles yn sylweddol.
Mae dros 100 o amgueddfeydd achrededig unigryw yng Nghymru, o’r rhai bychan iawn i’n hamgueddfeydd gwych cenedlaethol. Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru. Rwy’n gwybod o’r sgyrsiau rheolaidd rwy’n eu cael gyda chydweithwyr yn y sector amgueddfeydd ei fod yn ferw o greadigrwydd.
Rydyn ni yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn awyddus i glywed rhagor o syniadau – o bob lliw a llun, mawr neu fach – er mwyn gweld os allwn eu troi’n realiti. Felly, os gwelwch yn dda – dewch i siarad â ni.
Sut i gael cyllid
Ewch i’n tudalennau cyllid am ragor o wybodaeth ac i weld beth rydyn ni wedi ei ariannu hyd yn hyn yng Nghymru a’r sector amgueddfeydd ledled y DU.
25 mlynedd o ariannu treftadaeth
Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.