Gwella eich sgiliau busnes a chryfhau gwydnwch
Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol gwnaethom ymrwymiad i gefnogi sefydliadau treftadaeth i fod yn fwy cadarn, mentrus a blaengar.
Wrth i'r sector ddod allan o bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae'r gefnogaeth hon yn arbennig o bwysig.
Rydym wedi buddsoddi mwy na £4miliwn mewn rhaglenni hyfforddiant cymorth busnes a datblygu menter ledled y DU. Drwy hybu sgiliau a gwella arweinyddiaeth a rheolaeth, mae'r rhaglenni hyn yn helpu sefydliadau i gynyddu eu hyder, eu gallu a'u gwydnwch.
Ailadeiladu Treftadaeth
Mae Ailadeiladu Treftadaeth yn helpu sefydliadau ledled y DU i wella eu gwydnwch. Mae meithrin sgiliau ar draws ystod o ddisgyblaethau craidd – arweinyddiaeth, cyfathrebu, cynllunio busnes, cyllid a chodi arian – yn sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd drwy argyfyngau.
Mae cyfranogwyr y rhaglen yn cael cymorth wedi'i deilwra ar sail un-i-un neu grŵp bach. Mae ymgynghorwyr yn gweithio gyda chyfranogwyr ar ganlyniadau pendant, gan ddatblygu cynlluniau a strategaethau y gellir eu rhoi ar waith yn uniongyrchol.
Dywed Vanessa Moore, Swyddog Ymgysylltu Prosiect Ailadeiladu Treftadaeth :"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gwthio'r sector i'w derfynau ac mae'r rhan fwyaf o sefydliadau a busnesau bellach yn fwy ymwybodol nag erioed o'u cryfderau a'u gwendidau unigryw eu hunain. Mae'r rhaglen Ailadeiladu Treftadaeth yn darparu cymorth ymateb cyflym i fynd i'r afael â'r gwendidau hyn cyn iddynt ddechrau peri risg."
Mae dwy rownd arall ar ôl ar y rhaglen: mae ceisiadau ar gyfer Rownd 5 yn cau ar 1 Mehefin ac mae ceisiadau ar gyfer Rownd 6 yn cau ar 27 Gorffennaf 2021. Bydd y mathau o gymorth sydd ar gael yn newid ar draws rowndiau.
Mae Ailadeiladu Treftadaeth hefyd yn cynnig rhaglen o adnoddau a gweminarau sydd ar gael i bawb. Rhagor o wybodaeth ac ymgeisio.
Cwmpawd Treftadaeth
Mae Heritage Compass yn rhaglen cymorth busnes ar gyfer sefydliadau treftadaeth bach a chanolig yn Lloegr. Wedi'i ddarparu gan Cause4 gyda phartneriaid consortiwm, dyfarnwyd arian ychwanegol i'r rhaglen yn ddiweddar gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ehangu o 150 i 300 o sefydliadau sy'n cymryd rhan.
Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn elwa ar ystod o hyfforddiant, mentora a dysgu gan gyfoedion. Bydd pob sefydliad yn datblygu cynllun busnes clir, strategaeth incwm ddatblygedig a'r offer a'r wybodaeth i ymateb i'w hanghenion a'u heriau penodol.
Mae'r prosiect 18 mis yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddo. Mae grantiau i gael mynediad i'r rhaglen ar gael i sicrhau bod pob sefydliad yn gallu ymgysylltu'n llawn.
Mae ceisiadau i ymuno â'r rhaglen ar agor tan 12pm ar 30 Mehefin 2021. Dysgwch fwy a lawrlwythwch becyn recriwtio.
Camau at Gynaliadwyedd
Bydd Camau at Gynaliadwyedd yn cefnogi sefydliadau o bob rhan o'r DU i gryfhau eu sgiliau arwain strategol a chynhyrchu incwm. Mae'r rhaglen datblygu menter 15 mis yn cael ei chyflwyno gan yr Academi Mentrau Cymdeithasol.
Bydd sefydliadau sy'n cymryd rhan yn dysgu bod yn uchelgeisiol ac yn flaengar, a sut i gyflawni prosiectau newydd cyffrous. Bydd y rhaglen yn darparu:
- helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer cynaliadwyedd a'i feithrin
- ariannu hyd at £10,000 i helpu i lunio a lansio syniadau busnes
- hyfforddi ar ôl y rhaglen neu fentora busnes
- adnoddau a phecynnau cymorth ar gyfer llwyddiant
Mae ceisiadau ar agor tan 23 Gorffennaf 2021. Dysgwch fwy a lawrlwythwch becyn cais.
Mae mwy i ddod
Bydd ceisiadau am gymorth busnes pellach a datblygu menter yn agor yn ddiweddarach yn 2021.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed mwy am y cyfleoedd hyn wrth i fanylion ddod ar gael.