Dewch yn un o'n hymgynghorwyr i gefnogi treftadaeth ar draws y DU
Mae ein hymgynghorwyr RoSS yn chwarae rhan bwysig yn ein gwaith, gan ddarparu cyngor arbenigol, monitro prosiectau a mentora grantïon a darpar ymgeiswyr. Mae ganddynt amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad.
Mae ein ymgynghorwyr RoSS yn hanfodol i'n llwyddiant a byddant yn chwarae rôl allweddol wrth helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Gwneud gwahaniaeth
Mae ymgynghorwyr RoSS yn cael effaith arwyddocaol ar dreftadaeth y DU trwy gefnogi a monitro ein prosiectau. Ni yw ariannwr mwyaf treftadaeth y DU ac rydym wedi dyfarnu £8.8biliwn i fwy na 51,000 o brosiectau ers 1994.
Fel ymgynghorydd, byddwch yn darganfod amrywiaeth o dreftadaeth anhygoel, o dirweddau syfrdanol a thirnodau eiconig i drysorau lleol ac atgofion cymunedol. Byddwch hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau, o grwpiau cymunedol i awdurdodau lleol ac elusennau cenedlaethol.
Am beth ydyn ni'n chwilio?
Rydym am benodi ymgynghorwyr a all ddefnyddio eu harbenigedd i ddarparu gwasanaethau mewn unrhyw un o'r meysydd canlynol:
- rheoli prosiectau adeiladwaith treftadaeth a diwylliant
- datblygu a rheoli busnesau
- ennyn diddordeb y cyhoedd mewn treftadaeth
- yr amgylchedd naturiol
Fel ariannwr DU gyfan, mae'n rhaid i'n ymgynghorwyr fedru cefnogi prosiectau yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a phob ardal yn Lloegr.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, gan gynnwys y rhai sydd â Chymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith.
Hanfodol i'n llwyddiant
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth: “Fel ein llygaid a'n clustiau ar lawr gwlad, mae ein hymgynghorwyr RoSS yn chwarae rôl hollbwysig wrth helpu ni i ddiogelu a chryfhau treftadaeth drysoredig y DU.
“Maen nhw'n defnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth arbenigol i gefnogi ein prosiectau, gan helpu nhw i fod yn flaengar a'u llywio tuag at sicrhau'r canlyniadau gorau posib i dreftadaeth, pobl a chymunedau.
“Mae ein hymgynghorwyr RoSS yn hanfodol i'n llwyddiant a byddant yn chwarae rôl allweddol wrth helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau - gan gynnwys cyflwyno ein strategaeth Treftadaeth 2033 a'n gweledigaeth o werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol."