Gwobrau'r Loteri Genedlaethol ar agor ar gyfer enwebiadau gan y cyhoedd

Gwobrau'r Loteri Genedlaethol ar agor ar gyfer enwebiadau gan y cyhoedd

National Lottery awards logo
Rhowch wybod i ni pa brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy'n haeddu cydnabyddiaeth arbennig.

A ydych wedi cael eich ysbrydoli gan brosiect gwirioneddol eithriadol sydd wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol?

A wnaeth y prosiect:

  • trawsnewid treftadaeth
  • cael effaith fuddiol iawn ar y gymuned o’i hamgylch
  • gwneud bywyd yn well i'r bobl a gymrodd ran?

Os felly, gallwch helpu i gydnabod llwyddiant y prosiect drwy ei enwebu am wobr y Loteri Genedlaethol!

Oscars y byd Loteri Genedlaethol

Gwobrau blynyddol y Loteri Genedlaethol yw Oscars y byd Loteri Genedlaethol. Maen nhw’n cydnabod yr amrywiaeth enfawr o achosion da - gan gynnwys treftadaeth - a gynorthwyir gan arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bob blwyddyn.

Mae'r enillwyr yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith gwych ynghyd â gwobr ariannol. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglen y BBC ym mis Tachwedd.

Mae'r flwyddyn 2019 yn arbennig am fod y Loteri Genedlaethol yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.

Mae'r garreg filltir yma wedi ysbrydoli gwobrau'r Loteri Genedlaethol i edrych yn ôl ar y gwahaniaeth anhygoel y mae achosion da a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol wedi'u gwneud i'r DU dros y chwarter canrif ddiwethaf.

Gall unrhyw brosiect sydd wedi cael arian gan y Loteri Genedlaethol yn ystod y cyfnod yma gael ei enwebu wrth i'r gwobrau chwilio am hoff achosion da'r Loteri Genedlaethol yn y DU.

Beth bynnag a ddewiswch, cofiwch ddweud pam ei fod yn rhagorol.

Gallwch gyflwyno eich enwebiadau a gweld enillwyr blaenorol ar wefan gwobrau'r Loteri Genedlaethol.

Enwebiadau'n cau ar 30 Ebrill.