Trosolwg o Treftadaeth 2033

Trosolwg o Treftadaeth 2033

Hoffech chi drosolwg cyflym o'n strategaeth 10 mlynedd? Cymerwch gipolwg ar ein fideo byr a'n 'strategaeth ar y dudalen' isod ac yn y PDF atodedig.

Ein gweledigaeth

Rydym eisiau gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. 

Ein hegwyddorion buddsoddi a'r hyn y byddwn yn ei gyflawni erbyn 2023

Achub treftadaeth:

  • gwella cyflwr treftadaeth a dealltwriaeth ohoni
  • llai o 'dreftadaeth mewn perygl’
  • cyflwyno prosiectau trawsnewidiol hirdymor
  • gwneud treftadaeth ddigidol yn fwy hygyrch

Diogelu'r amgylchedd:

  • cychwyn adferiad tirweddau a chynefinoedd
  • gwell dealltwriaeth o natur a chysylltiad â hi
  • lleihau effaith amgylcheddol negyddol ein portffolio ariannu
  • gwella gallu treftadaeth i addasu i newid yn yr hinsawdd

Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad:

  • cynyddu amrywiaeth gweithluoedd a chynulleidfaoedd treftadaeth
  • isafu rhwystrau i bobl sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth
  • galluogi i dreftadaeth mwy o bobl gael ei chydnabod
  • eirioli technoleg ddigidol er mwyn gwella mynediad

Cynaladwyedd sefydliadol:

  • gwella galluoedd masnachol a llywodraethol sefydliadau
  • datblygu sgiliau a chapasiti ar draws treftadaeth
  • ymwreiddio cydnerthedd yn y prosiectau a ariannwn
  • cryfhau cyfraniad treftadaeth at economïau lleol

Ein hymagwedd

  • Rhaglenni agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth gyda'r mwyafrif o'r penderfyniadau'n cael eu gwneud ar lefel leol.
  • Ymyriadau strategol i fynd i'r afael â materion graddfa fawr a thraws-diriogaethol.
  • Partneriaethau sy'n cyfuno adnoddau ac arbenigedd i greu buddsoddiadau â mwy o effaith.
  • Ffocws ar le, tirwedd a natur, treftadaeth mewn angen ac ymateb i gyfleoedd ac argyfyngau.