Hanes darlledu Cymru yn ddiogel ar gyfer y dyfodol
Bydd yr arian gan y Loteri Genedlaethol yn helpu sicrhau bod tua 240,000 awr o ddeunydd radio a theledu o Gymru, sy’n olrhain bron i 100 mlynedd o ddarlledu ac sy’n cynnwys sawl digwyddiad econig o hanes a diwylliant Cymru yn ystod yr 20fed ganrif ar gael ac yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y deunydd BBC – mewn fformatiau gwreiddiol ac wedi ei ddigideididio – yn cael ei ychwanegu at archif bresennol ITV Cymru y Llyfrgell Genedlaethol, gan ddechrau gwireddu’r weledigaeth o Archif Ddarlledu Genedlaethol gyflawn i Gymru.
Caif y deunydd ei gadw mewn storfa bwrpasol 1,000 metr sgwâr yn y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd hefyd ar gael i’r cyhoedd mewn pedwar lleoliad arall ar hyd a lled Cymru.
Dogfennu hanes Cymru dros y can mlynedd ddiwethaf
Diolch i’r prosiect a dros 1,500 o wirfoddolwyr, caiff dros 180,000 eitem sy’n cwmpasu’r Ail Ryfel Byd, llwyddiannau chwaraeon eiconig, trychineb Aberfan, ymgyrch datganoli a streic y Glöwyr, eu diogelu
Mae prif elfennau eraill y prosiect yn cynnwys:
- Gweithgareddau mewn deg ardal yn cynnwys dros 300 digwyddiad rhyngweithiol i hybu dysgu digidol ar gyfer pobl ifanc a iechyd a lles ar gyfer hen bobl.
- Darnau unigryw sy’n dilyn datblygiad yr iaith Gymraeg a chynnyrch awduron fel Dylan Thomas a Saunders Lewis, yn ogystal â recordiadau o ddarllediadau Cymraeg cynnar.
- Sefydlu canolfannau clipiau symudol gan sicrhau bydd y wybodaeth yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach