12 o drefi a dinasoedd i elwa o raglen i helpu adfywio adeiladau hanesyddol segur
Mae grymuso mentrau cymdeithasol ac elusennau i ddod â chwa o awyr iach i adeiladau treftadaeth segur sydd mewn perygl wrth wraidd rhaglen yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth. Gan weithio gyda'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF), bu i ni wahodd sefydliadau i ymuno â’r rhaglen yn gynharach eleni.
Rhoi hwb i allu sefydliadau treftadaeth adeiledig
Bydd y 12 sefydliad yn cael eu hariannu i gynyddu graddfa eu gweithrediadau atgyweirio, adfer ac ailddefnyddio adeiladau sydd mewn perygl yn eu hardaloedd lleol. Bydd arweiniad gan ymgynghorwyr a mentoriaid yn cynorthwyo datblygiad eu sgiliau a gwybodaeth, ochr yn ochr â chymorth gan gymheiriaid i ehangu eu rhwydweithiau.
Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) yn cefnogi cymunedau, elusennau a grwpiau treftadaeth i ddatblygu cynlluniau trawsnewid adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl - gan roi hwb i falchder yn eu lle, cysylltiad â’r gorffennol a buddsoddi yn y dyfodol.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Lledaeniad yr arian ar draws y DU
Ymhlith y sefydliadau sy'n derbyn cymorth drwy'r rhaglen mae Cyngor Medway yn Chatham, Swydd Gaint, sydd â chynlluniau i drawsnewid cyn gorffdy ysbyty rhestredig Gradd II yn ofod cymunedol newydd, ac Inner City Trust yn Derry/Londonderry sy'n bwriadu adfer cyn gartref un o siopau adrannol hynaf y byd.
Y rhestr lawn o sefydliadau llwyddiannus yw:
- Cyngor Medway yn Chatham, Swydd Gaint
- Inner City Trust yn Derry, Londonderry
- Glasgow Building Preservation Trust yn Glasgow
- Culture Trust Luton yn Luton, Swydd Bedford
- Treftadaeth Hwlffordd Cyf yn Hwlffordd, Sir Benfro
- Heeley Trust yn Heeley, De Swydd Efrog
- Fife Historic Buildings Trust yn Kinghorn, Fife
- Galeri Caernarfon yng Ngwynedd, Caernarfon
- Cyngor Dinas Caerlŷr yng Nghaerlŷr, Swydd Caerlŷr
- North East Scotland PT yn Portsoy, Swydd Aberdeen
- Redruth Revival CIC yn Redruth, Swydd Gernyw
- Re-form Heritage yn Stoke-on-Trent, Swydd Stafford
Llwyddiannau profedig trwy raglen beilot
Mae rhaglen yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth yn ehangu ei gwaith ar draws y DU yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus, a ddangosodd sut mae cymunedau lleol yn elwa o adfywio adeiladau treftadaeth.
Y llynedd, adferodd y sefydliad nid-er-elw Valley Heritage yn Bacup, Swydd Gaerhirfryn, adeilad banc Fictoraidd gwag yn ofod cydweithio newydd a thai ar gyfer pobl ifanc ddigartref.
Yn Sunderland, trawsnewidiodd Tyne & Wear Building Preservation Trust res o dai masnachwyr Sioraidd oedd unwaith dan fygythiad o gael eu dymchwel yn lleoliad cerddorol bywiog, siop goffi a bar.
Diogelu treftadaeth bensaernïol a chreu cartrefi, gweithleoedd a mannau cymunedol
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, rydym yn cydweithio â sefydliadau sy'n rhannu ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.
“Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) yn cefnogi cymunedau, elusennau a grwpiau treftadaeth i drawsnewid adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl - gan roi hwb i falchder yn eu lle, cysylltiad â’r gorffennol a buddsoddi yn y dyfodol.”
Meddai Matthew Mckeague, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol: “Bydd dod â hen adeiladau yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol yn diogelu gorffennol pensaernïol cyfoethog ein gwlad ar yr un pryd â chreu cartrefi, gweithleoedd a lleoliadau cymunedol newydd pwysig."
Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect treftadaeth
Porwch drwy grynodebau ac astudiaethau achos o brosiectau treftadaeth adeiledig yr ydym wedi'u cefnogi ar ein tudalen we ardaloedd, adeiladau a henebion.