Dywedwch wrthym: a yw eich parc neu ardd hanesyddol wedi paratoi ar gyfer yr argyfwng hinsawdd?
Er bod gan y DU dros 2,700 o dirweddau, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, cyfyngedig yw'r arweiniad sydd ar gael i'r rhai sy'n gofalu amdanynt ar sut i addasu a pharatoi ar gyfer ein hinsawdd sy'n newid.
Felly, rydym yn gweithio gyda Historic England ar ymchwil newydd i sut mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar y lleoedd hyn.
Os ydych chi'n rheoli neu'n berchen ar barciau a gerddi hanesyddol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Llenwch ein harolwg i'n helpu i ddeall y sefyllfa gyfredol, nodi pa adnoddau sy'n bodoli a llywio ein dull yn y dyfodol o'ch cefnogi chi a threftadaeth naturiol y DU.
Beth fydd ein hymchwil yn ei gyflawni
Mae parciau a gerddi hanesyddol ar flaen y gad o ran newid hinsawdd. Mae llawer o safleoedd eisoes yn cael eu heffeithio gan sychder, llifogydd, tymereddau uchel, plâu a chlefydau newydd a stormydd sy'n gynyddol drwm ac yn digwydd yn fwy aml.
Bydd yr ymchwil hon yn archwilio sut mae eich lleoedd yn cael eu rheoli a'u cynnal a chadw wrth ymateb i'r bygythiadau presennol, a pha arweiniad ac adnoddau sydd eu hangen arnoch. Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn helpu i lunio ein dull ymatebol o gyflwyno'r strategaeth Treftadaeth 2033.
Dywedodd Drew Bennellick, ein Pennaeth Polisi Tir, Môr a Natur: “Mae'r DU yn hafan garddio ac mae ein tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol yn enwog ledled y byd. Rydyn ni'n gwybod bod rhai sefydliadau mwy yn ymwneud yn weithredol â lliniaru ac addasu ar gyfer y dyfodol, ond rydym am gael gwybod a yw perchnogion a rheolwyr yn ymateb mewn ffordd gynlluniedig a rheoledig ac os nad ydyn nhw, pa gymorth a chefnogaeth y gallai fod eu hangen arnynt.”
Sut rydyn ni'n cefnogi parciau a gerddi hanesyddol
Ers 1994 rydyn ni wedi dyfarnu dros £2.2 biliwn i 5,100 o brosiectau tir, môr a natur ar draws y DU. O galon Ardal y Copaon i Orllewin Fermanagh yng Ngogledd Iwerddon, dyma ychydig o enghreifftiau o sut mae ein hariannu yn helpu safleoedd i barhau i ysbrydoli ymwelwyr:
Chatsworth: gyda'n grant o £4.95 miliwn, mae'r prosiect yn helpu i adfer y Cascade i gyflwr gweithio llawn a chysylltu ymwelwyr â'i dreftadaeth. Mae gweithgareddau'n helpu pobl i ddysgu am hanes a pheirianneg y Cascade a phwysigrwydd dŵr fel adnodd naturiol.
Kitchen Garden at Florence Court: Mae ein grant o £417,800 yn adfer yr ardd hanesyddol i'w chymeriad gwreiddiol o'r 1930au. Mae dau dŷ gwydr wedi'u hadfer, gan ddarparu lle i dyfu ffrwythau a chyfleoedd i gymunedau feithrin diddordeb mewn garddwriaeth a threftadaeth.
Royal Botanical Gardens Edinburgh: mae'r £4 miliwn o ariannu gennym yn adfer dau dŷ palmwydd Fictoraidd hanesyddol, nifer o dai gwydr modernistaidd o'r 1960au ac yn cefnogi ail-arddangos casgliadau planhigion hanesyddol prin sydd mewn perygl. Mae rhaglen profiadau a gweithgareddau newydd i ymwelwyr yn helpu cynulleidfaoedd i ddysgu am yr amgylchedd naturiol a chymryd camau ar yr argyfwng hinsawdd.
Cymerwch ran yn yr arolwg
Dywedwch wrthym sut mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar eich parc neu'ch gardd hanesyddol chi. Llenwch yr arolwg cyn hanner dydd ddydd Llun 16 Mawrth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud mwy i helpu diogelu'r amgylchedd trwy eich prosiect treftadaeth, mynnwch gip ar ein canllaw arfer da cynaladwyedd amgylcheddol.