Rheoli cymhorthdal

Rheoli cymhorthdal

O dan ofynion tryloywder Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 mae'n ofynnol i ni gyhoeddi manylion dyfarniadau unigol y gellid ystyried eu bod yn gymorthdaliadau.

Rydym yn gorff cyhoeddus ac yn ariannwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU.

Fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau’r Loteri Genedlaethol o £10,000 i £10miliwn a mwy, gan ariannu prosiectau sy'n cynnal ac yn trawsnewid treftadaeth y DU. 

Fel y Gronfa Treftadaeth, rydym yn dosbarthu arian nad yw'n dod o'r Loteri, gan gynnwys cymorth grant / cyllid gan y llywodraeth a benthyciadau, i sefydliadau treftadaeth. 

Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022

Ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2021, mae llywodraeth y DU wedi deddfu deddfwriaeth ddomestig i ddisodli cyfraith yr UE: Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 ('y Ddeddf’). 

Nod y Ddeddf yw rheoli darpariaeth cymorthdaliadau - mae'n atal cystadleuaeth annheg neu effeithiau ar fasnachu a buddsoddi. Gallai hyn ddigwydd os byddai sefydliad yn derbyn cyllid o adnoddau gwladol (sy'n cynnwys ein harian ni, gan fod ein cronfeydd yn arian cyhoeddus) tra y byddai sefydliad arall yn defnyddio ei gyllid preifat ei hun yn unig.

Dylech ymgyfarwyddo â gofynion y drefn rheoli cymorthdaliadau newydd wrth ystyried gwneud cais i ni

Bydd y Ddeddf mewn grym yn llawn o 4 Ionawr 2023. Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), wedi cyhoeddi arweiniad drafft ar weithrediad y Ddeddf. Mae'r arweiniad hwn yn helpu awdurdodau cyhoeddus, fel y Gronfa Treftadaeth, i ddyfarnu cymorthdaliadau mewn ffordd sy'n isafu unrhyw effeithiau negyddol ar gystadleuaeth a buddsoddiad, yn ogystal â hyrwyddo'r defnydd effeithiol ac effeithlon o arian cyhoeddus.  Caniateir y cymorthdaliadau hyn ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y Ddeddf.

Mae'n rhaid i gymorthdaliadau uwchben trothwy ariannol penodol (£100,000 ar hyn o bryd) gael eu cyhoeddi ar ein gwefan ein hunain, ac ar gronfa ddata a gedwir gan BEIS.

Mae'n bosib y bydd grantiau llai y tu hwnt i gwmpas y Ddeddf os nad ystyrir eu bod yn gymhorthdal. Er enghraifft, gan eu bod yn annhebygol o gael effaith ar fasnachu neu fuddsoddi.

Beth yw cymhorthdal?

Mae pedair nodwedd allweddol y mae'n rhaid iddynt oll fod yn bresennol er mwyn i ariannu gael ei ystyried yn gymhorthdal:

  1. cyfraniad ariannol
  2. wedi’i roi gan awdurdod cyhoeddus o gyllid cyhoeddus
  3. wedi’i roi i sefydliad, gan roi mantais economaidd iddynt nad yw ar gael ar delerau'r farchnad
  4. yn effeithio ar, neu a allai effeithio ar, gystadleuaeth neu fuddsoddiad o fewn y DU, neu fasnachu neu fuddsoddiad rhwng y DU a gwlad neu diriogaeth y tu allan i'r DU

Os yw ein hariannu'n cyfateb i bob un o'r pedair nodwedd allweddol, mae hynny'n golygu ei fod yn gymhorthdal. Er mwyn i gymhorthdal gael ei ganiatáu mae'n rhaid iddo gydymffurfio â'r saith egwyddor gyffredin fel y nodir ar wefan llywodraeth y DU

Cyfraith Cymorth Gwladol yr UE

Bydd cyfraith cymorth gwladol flaenorol yr UE yn dal i fod yn berthnasol i rai grantiau a ddyfarnwyd cyn 31 Rhagfyr 2020, ac mae'n bosib y bydd rhai ystyriaethau ychwanegol yng Ngogledd Iwerddon.

Gellir dod o hyd i arweiniad cymorth gwladol y DU ar wefan llywodraeth y DU.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Buxton Civic Association Ltd

Dyddiad y grant: 20 Rhagfyr 2023

Cyfeirnod: NM-23-00720

Grantï: Buxton Civic Association Ltd

Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint

Swm y cymhorthdal: £249,990

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Mae Buxton Civic Association (BCA) yn berchen ar ac yn rheoli 200 erw o goetir o amgylch Buxton a Poole's Cavern, ogof calchfaen naturiol dwy filiwn o flynyddoedd oed. Bydd y prosiect yn galluogi Buxton Civic Association (BCA) i weithredu newidiadau sefydliadol ac archwilio cyfleoedd newydd i ennyn diddordeb aelodau, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn yr atyniadau pwysig hyn.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli penderfynu dirprwyedig a gynullwyd yn arbennig.

Crynodeb prosiect: Bydd y prosiect 26 mis hwn yn cefnogi Buxton Civic Association (BCA) i ddod yn fwy cydnerth yn sefydliadol. Bydd yn cyflawni hyn drwy gynyddu gallu’r sefydliad i roi newidiadau ar waith, profi Cynlluniau Datblygu Cynulleidfa a Gwirfoddolwyr newydd, archwilio cyfleoedd masnachol newydd, a chomisiynu cyngor proffesiynol i wella llywodraethu.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Citizens Theatre

Dyddiad y grant: 19 Rhagfyr 2023

Dyddiad dod i ben y grant: 30 Mehefin 2024

Cyfeirnod:  HG-13-09470

Grantï: Citizens Theatre

Categori buddiolwr: Canolig

Swm y cymhorthdal: cynnydd yn y grant o £2,500,000. Cyfanswm grant a ddyfarnwyd: £7,295,000.

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi:  Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Bydd yr ariannu'n caniatáu i Citizens Theatre adfer a diogelu dyfodol y Citizens Theatre restredig Gradd B yn Glasgow. Mae'r theatr yn dirnod diwylliannol hanesyddol pwysig ac yn ganolbwynt cymunedol yn ardal Gorbals Glasgow.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.

Crynodeb prosiect: Nod y Prosiect yw adfer a diogelu dyfodol y Citizens Theatre restredig Gradd B eiconig yn Glasgow. Lleolwyd y theatr yn y Gorbals, ardal o amddifadedd cymdeithasol-economaidd difrifol ac roedd o bwysigrwydd diwylliannol enfawr yn y cyd-destun hwnnw ac ar gyfer y ddinas gyfan. Byddai'r prosiect yn ymgymryd â gwaith atgyweirio a chadwraeth brys i adfer awditoriwm gwreiddiol y theatr a dileu ychwanegiadau modern amhriodol. Byddai hygyrchedd yn cael ei wella a byddai gofod cefn llwyfan a'r awditoriwm yn cael eu gwneud yn fwy hyblyg. Byddai rhaglen o ddigwyddiadau datblygu cynulleidfaoedd ac allgymorth yn cael ei darparu.

Mae'r theatr yn dirnod diwylliannol hanesyddol pwysig ac yn ganolbwynt cymunedol yn ardal Gorbals Glasgow. Mae’r ardal wedi cael ei thrawsnewid yn sylweddol trwy ddymchwel blociau tŵr tai cymdeithasol uchel gerllaw a’u disodli â thai fforddiadwy o ansawdd uchel wedi’u darparu gan bartneriaeth o ddatblygwyr preifat a chymdeithasau tai yn yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fodel disglair o gynllunio trefol.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio'n benodol ar:

  • ddileu ac ailosod ychwanegiadau adfeiliedig nad ydynt yn rhai gwreiddiol
  • gwella mynediad i'r cyhoedd a gwella'r profiad i ymwelwyr
  • catalogio a gwarchod casgliadau hanesyddol
  • dehongli treftadaeth yr adeilad
  • darparu rhaglen o ymgysylltu â’r gymuned
  • darparu cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a datblygu sgiliau.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â Gwaith Copr Hafod Morfa

Dyddiad y grant: Llythyr cynnydd grant dyddiedig 15 Rhagfyr 2023

Dyddiad dod i ben y grant: 29 Chwefror 2024

Cyfeirnod: HE-15-01729

Grantï: Dinas a Sir Abertawe

Categori buddiolwr: Mawr

Swm y cymhorthdal: Cynnydd yn y grant o £1,428,119 Cyfanswm y grant: £5,245,519

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Dylunnir y rhaglen Menter Treftadaeth i bontio'r bwlch ariannu sy'n atal ased hanesyddol y mae angen ei atgyweirio rhag cael ei ddychwelyd i ddefnydd buddiol a masnachol. Amcan polisi cyhoeddus ein rhaglen Menter Treftadaeth yw helpu prosiectau i gyflawni twf economaidd trwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Mae’n cefnogi sefydliadau masnachol sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol i’w helpu achub adeiladau a safleoedd hanesyddol sydd wedi’u hesgeuluso a’u dychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol hyfyw.

Roedd y grant gwreiddiol yn ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus i achub adeilad rhestredig Gradd II adfeiliedig, gan ei drawsnewid o gragen wag yn atyniad bywiog, creu swyddi'n lleol a chynyddu nifer yr ymwelwyr i ardal Copperopolis. Cynnydd yn y grant  yw hwn, a chyfeiriwyd yr amcan polisi cyhoeddus gan ymchwydd yn y costau a'r sylweddoliad y byddai'r prosiect yn dod i ben heb arian ychwanegol.

Lefel y cymhorthdal yn yr achos hwn yw'r cynnydd mewn costau; ystyrir felly ei fod yn cynrychioli'r bwlch hyfywedd. Roedd yr amcan hwn yn cydnabod y byddai'r mesur yn sicrhau llawer o fanteision adfywio hirdymor pwrpasol, gan gyfrannu felly at ddatblygiad economaidd Cwm Tawe.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu gyhoeddus, neu bartneriaethau rhwng sefydliadau masnachol a rhai nid-er-elw.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig. Lefel y cymhorthdal yn yr achos hwn yw'r cynnydd mewn costau; ystyrir felly ei fod yn cynrychioli'r bwlch hyfywedd.

Crynodeb prosiect: Prosiect Menter Treftadaeth yw hwn, sy’n seiliedig ar y diffyg cadwraeth, lle mae gwerth presennol ased treftadaeth ynghyd â’r gost o'i ddychwelyd i ddefnydd yn fwy na gwerth yr ased ar ôl i’r datblygiad gael ei gwblhau.

Mae’r prosiect hwn wedi’i leoli ar safle hen Waith Copr Hafod Morfa, sy’n cynnwys 12 o adeiladau neu adeileddau rhestredig Gradd II sy' gysylltiedig â’r diwydiant copr (gan gynnwys y Pwerdy Gradd II* a’r Felin Rolio Gradd II).

Roedd adeilad y Felin Rolio, sy'n gweithredu'n rhannol fel Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe, mewn cyflwr rhesymol ond roedd yr adeiladau hanesyddol eraill wedi'u hesgeuluso bron yn gyfan gwbl ers 1980, gyda fandaliaeth, tanau bwriadol a llystyfiant i gyd yn gwaethygu'r dadfeiliad. Roedd llawer o'r adeiladau, gan gynnwys y Pwerdy, ar Gofrestr Adeiladau Rhestredig mewn Perygl y cyngor a heb eu hystyried fel rhai a allai fod yn fasnachol hyfyw.

Mae cwmni wisgi Penderyn wedi nodi’r potensial i leoli ehangiad o’u busnes hynod lwyddiannus yn adeilad y Pwerdy rhestredig Gradd II, ac mewn rhan o’r Felin Rolio restredig Gradd II ar safle Gwaith Copr Hafod-Morfa sydd o arwyddocâd rhyngwladol yn Abertawe.

Bydd ehangu Penderyn ar les 99 mlynedd yn darparu craidd cynaliadwy i weithredu fel catalydd i ddatgloi adfywio pellach ar safle a oedd yn grwsibl i ddiwydiant copr y byd yn y 1800au. Bydd defnyddio offer distyllfa copr yn cysylltu proses weithgynhyrchu newydd â gorffennol bywiog y safle.

Bydd dehongli newydd a chanolfan ymwelwyr integredig yn cysylltu’r gweithrediad masnachol â hanes copr cyfoethog y safle, ac yn gweithredu fel ffocws ar gyfer yr atgofion a’r arteffactau sy’n annwyl i bobl leol, gan ddod â nhw at gynulleidfa ryngwladol.

Mae gwaith cyfalaf y prosiect yn cynnwys:

  • adfer Adeilad y Pwerdy
  • ailgyflunio'r Felin Rolio gyfagos i'w defnyddio'n rhannol
  • adeiladu canolfan ymwelwyr newydd rhwng y ddau

Lefel y cymhorthdal yn yr achos hwn yw'r cynnydd mewn costau; ystyrir felly ei fod yn cynrychioli'r bwlch hyfywedd.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â Kala Sangam

Dyddiad y grant: 13 Rhagfyr 2023

Dyddiad dod i ben y grant: 30 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  NL-21-00243

Grantï: Kala Sangam

Categori buddiolwr: Bach

Swm y cymhorthdal: £2,291,947

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi:  Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Trawsnewid Treftadaeth yn Kala Sangam: dathlu, archifo a dod â hanesion y cymunedau sydd wedi siapio St Peter's House yn fyw ac adeiladu dyfodol disglair, hygyrch ar gyfer yr adeilad treftadaeth nodedig hwn.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.

Crynodeb prosiect: Mae Kala Sangam wedi cydweithio’n eang â chymunedau amrywiol Bradford, gan ddatblygu cynigion ar raddfa fawr i adfywio ei gartref, St Peter's House rhestredig Gradd II, drwy ddileu rhwystrau mynediad sylweddol a chreu'r gofodau ffisegol sydd eu hangen i gynyddu graddfa’r ddarpariaeth treftadaeth, wedi’i hategu gan raglen weithgareddau gynhwysol am ddwy flynedd.

Bydd y cam cyflwyno 39 mis yn dechrau ym mis Rhagfyr 2023, a disgwylir i'r gwaith cyfalaf gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2025. Bydd gweithgareddau'n cael eu darparu hyd at fis Chwefror 2026. Mae'r staff amser llawn yn cynnwys Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol a Swyddog Ymgysylltu â Threftadaeth.

Ymhlith y gwaith cyfalaf fydd:

  • mynedfa ganolog newydd, wedi'i dylunio'n sympathetig i gwblhau'r ffasâd presennol trwy addasu prif ffenestri fel agoriadau drws newydd, a grisiau.
  • oriel a gofod dehongli newydd i weithredu fel cyntedd canolog, yn gartref i fan dehongli/arddangos treftadaeth parhaol a thymhorol
  • pedwar gofod stiwdio newydd ar gyfer ymgysylltu â threftadaeth
  • dau lifft hygyrch
  • gwaith amddiffyn ffabrig y to
  • ymyriadau mynediad
  • Cyfleusterau 'Changing Places'
  • ailbwrpasu’r llawr gwaelod, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer tenant newydd a arweinir gan y gymuned (BCB Community Radio), i bob pwrpas yn dyblu'r arwynebedd llawr sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn St Peter's House

Bydd gweithgarwch helaeth yn ennyn diddordeb pobl o bob rhan o Bradford, gan ganolbwyntio'n benodol ar ardaloedd sy'n profi lefelau uchel o amddifadedd ac ymgysylltiad diwylliannol isel.

Bydd Kala Sangam yn gweithio gyda phedair cymuned graidd leol, sy'n adlewyrchu amrywiaeth amlddiwylliannol ward City (lle mae Kala Sangam wedi'i leoli):

  • WomenZone (menywod hŷn, a aned ym Mhacistan, De Asia yn bennaf)
  • NAFS (mamau a phlant o Dde Asia a ffoaduriaid o Ddwyrain Ewrop)
  • u3a (hŷn, Gwyn Prydeinig a heb fod mewn gwaith amser llawn bellach)
  • New Libya Society (pob oedran)

Yn ystod blwyddyn un, bydd gweithgarwch yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau cymunedol lleol. Bydd gweithgareddau'r ail flwyddyn yn cael eu darparu ar y safle (ôl-gyfalaf) a bydd y gwaith a grëir yn teithio i gymunedau ar draws yr ardal.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Llanelly House Trust Ltd

Dyddiad y grant: 15 Tachwedd 2023

Cyfeirnod: NM-23-00581

Grantï: Llanelly House Trust Ltd.  

Categori buddiolwr: Mentrau Bach i Ganolig eu Maint

Swm y cymhorthdal: £112,000 (Grant wedi'i ddyfarnu)

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Gan ddefnyddio arian a godir gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth y DU er mwyn creu newid cadarnhaol a pharhaus ar gyfer pobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y DU. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Mae’r prosiect yn hwyluso mynediad am ddim i dreftadaeth a bydd y prosiect yn galluogi Llanelly House Trust Ltd i ailagor Plas Llanelly fel lleoliad ac atyniad i ymwelwyr sy’n gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy.   

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu'n sefydliadau sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.

Crynodeb o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect un flwyddyn i adfywio cynllun busnes Llanelly House Trust a gwneud gwaith brys ar Blas Llanelly, adeilad rhestredig Gradd I sydd wedi’i ddisgrifio fel y plasty tref gorau o ddechrau’r 18fed ganrif yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu i gefnogi costau cynnal a chadw a gwaith uwchraddio hanfodol. Mae'r prosiect yn targedu pobl sy'n lleol i Blas Llanelly trwy alluogi'r adeilad i ailagor fel profiad ymwelwyr a lleoliad hyfyw a deniadol, yn enwedig ar gyfer ymweliadau ysgol.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Prosiect Adfer Marchnad Caerdydd

Dyddiad y grant: 30 Hydref 2023

Cyfeirnod: OL-18-07277

Grantï: Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd

Categori buddiolwr: Mawr

Swm y cymhorthdal: £2,091,500 o £6,504,800 (32%)

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Bydd y grant yn ariannu prosiect sy'n canolbwyntio ar adfer y farchnad dan do Fictoraidd restredig Gradd II* yng nghanol dinas Caerdydd, gyda ffocws ar wella cynaladwyedd y farchnad a chynyddu / rhannu dealltwriaeth well o'i threftadaeth.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.

Crynodeb o'r prosiect: Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar adfer y farchnad dan do Fictoraidd restredig Gradd II* yng nghanol dinas Caerdydd, gyda ffocws ar wella cynaladwyedd y farchnad. Trwy'r cynnig penodol hwn, mae'r ymgeisydd yn ceisio pontio'r bwlch ariannu sy'n atal yr ased hanesyddol y mae angen ei atgyweirio rhag cael ei adnewyddu a'i gynnal a'i gadw'n ddigonol er mwyn iddo barhau i fod o ddefnydd buddiol.

Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar farchnad dan do Fictoraidd sydd yn hanesyddol wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i siopwyr ond sydd wedi dioddef o ddirywiad yn y sylfaen ymwelwyr sy’n heneiddio a hen systemau – yn enwedig draenio – sydd bellach yn atal tenantiaid presennol a darpar denantiaid rhag cyrraedd y safonau gofynnol.

Bydd y prosiect yn sicrhau y gall yr ased hanesyddol barhau i wasanaethu’r gymuned a chefnogi’r economi leol i’r dyfodol, trwy ymgymryd â gwaith atgyweirio sylweddol, moderneiddio systemau nad ydynt yn ddigonol ac ehangu cynwysoldeb y farchnad.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â Dewsbury Arcade

Dyddiad y grant: 26 Hydref 2023

Cyfeirnod: NL-21-00235

Grantï: Cyngor Bwrdeistref Kirklees (Cyngor Kirklees)

Categori buddiolwr: Mawr (250 a mwy)

Swm y cymhorthdal: £4,441,032 o £6,044,378

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Bwriad y rhaglen Menter Treftadaeth yw cefnogi datblygiadau na fyddent yn denu diddordeb masnachol, gan olygu nad ydynt yn fasnachol ymarferol. Mae'r cyfrifiad grant wedi'i strwythuro o amgylch y diffyg cadwraeth er mwyn sicrhau bod ein cyfraniad yn cael ei dargedu ac yn gymesur yn briodol â'r gost ailddatblygu.

Mae’r Arcêd yn rhan bwysig o Fframwaith Datblygu Strategol Canol Tref Dewsbury (2018), Glasbrint Dewsbury (2020), y Cynllun Lleol a’r bartneriaeth HAZ. Mae hefyd yn rhan o Strategaeth Treftadaeth/Cynllun Gweithredu drafft y Cyngor. Maer llywodraeth wedi dangos ymrwymiad i'r prosiect trwy ymrwymo arian cyfatebol o'r Towns Fund (TF) a'r Getting Building Fund (GBF). Mae cais y Cyngor yn nodi y bydd y prosiect yn cyfrannu at Lefelu i Fyny.

Diben y cymhorthdal: Mae ein grant yn gyfraniad tuag at y diffyg cadwraeth ynghyd â chostau gweithgareddau ar gyfer adfer ac uwchraddio'r Dewsbury Arcade Gradd II ac eiddo cyfagos.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw, neu'n sefydliadau sector cyhoeddus, neu gallai ymgeiswyr sy'n sefydliadau er elw ffurfio partneriaeth â chorff nid-er-elw. Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.

Crynodeb prosiect:  Bydd Cyngor Kirklees yn adfer ac yn uwchraddio'r Dewsbury Arcade Rhestredig Gradd II, ac eiddo cyfagos, i feddiannu man amlwg yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Dewsbury sydd mewn perygl, cyn lesio’r rhan fwyaf ohonynt i Gymdeithas Buddiant Cymunedol, ar wahân i ddau hunangynhwysol y bydd yn eu gosod ar wahân. Bydd y Gymdeithas Buddiant Cymunedol yn rheoli’r Arcêd fel hyb canolog bywiog, gan ddarparu unedau manwerthu annibynnol, stiwdios artistiaid, gwasanaethau, digwyddiadau ac unedau mawr ar y naill ben a'r llall ar gyfer bwyd/diod.

Ei denantiaid targed fydd egin entrepreneuriaid/artistiaid creadigol, gyda ffocws penodol ar bobl ifanc a phobl o dreftadaeth Asiaidd. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen ymgynghori, arddangosfeydd, gweithgareddau, creu adnoddau dysgu a theithiau. Bydd cynulleidfaoedd targed yn cynnwys myfyrwyr Coleg Kirklees, siopwyr, cerddwyr, ymwelwyr, grwpiau cymunedol a chynulleidfaoedd rhaglenni dysgu oedolion a chydlyniant y Cyngor. Unwaith eto, bydd ffocws arbennig ar gymunedau De Asiaidd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a phobl ifanc.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Gyngor Dinas Belfast a Strand Arts Centre

Dyddiad y grant: 20 Medi 2023

Cyfeirnod: NL-21-00125 Strand Arts Centre – A Lasting Picture House

Grantï: Cyngor Dinas Belfast a Strand Arts Centre (rhif elusen 104893) – grantïon ar y cyd

Categori buddiolwr:

Cyngor Dinas Belfast: Mawr, 250 a mwy o weithwyr

Strand Arts Centre: Menter fach, 10-49 o weithwyr

Swm y cymhorthdal: £768,069 o £6,940,069.00

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Mae'r prosiect a ariennir gan grant hefyd yn cyd-fynd â strategaethau ac amcanion lleol a llywodraeth.

Mae'n cyd-fynd â Rhaglen Llywodraeth (PfG) Gogledd Iwerddon sy'n pennu'r polisi ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon. Fel prosiect adfywio, celfyddydol a diwylliannol bydd y cais hwn yn cyflawni nifer o amcanion PfG ond yn fwyaf penodol bydd yn cyfrannu at dargedau Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon yn ymwneud â’r amcan: ‘Mae pobl eisiau byw, gweithio ac ymweld yma’.

Mae'r prosiect yn ategu nodau trosgynnol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon o dyfu ac ail-gydbwyso economi Gogledd Iwerddon yn ogystal â helpu i ymdrin â chanlyniadau sy'n gysylltiedig ag anfantais gymdeithasol i'r boblogaeth leol. Bydd y prosiect yn cydweddu â llawer o'r mentrau a gefnogir gan Gyngor Dinas Belfast ar hyn o bryd o ran ehangu arlwy ddiwylliannol y ddinas.

Ar lefel llywodraeth leol, bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyflawni amcanion polisi y Strategaeth Ddiwylliannol 'A City Imagining' sy'n gwneud ymrwymiad hirdymor i asedau treftadaeth, diwylliannol a thwristiaeth Belfast fel modd o ysgogi trawsnewid. Bydd yn cyfrannu'n feintiol at gyflawni 12 o'r 16 blaenoriaeth a nodir yn y strategaeth.

Diben y cymhorthdal: Ariannu ar gyfer prosiect cyfalaf dwy flynedd a hanner i adfer Strand Arts Theatre i'w gyflwyno gan Gyngor Dinas Belfast ynghyd â gweithgareddau amrywiol sydd i'w rhedeg gan Strand Arts Centre trwy gydol y prosiect cyfalaf.Ar ôl cwblhau’r prosiect cyfalaf, bydd Strand Arts Centre yn parhau i weithredu Strand Arts Theatre o dan ei les 25 mlynedd ar yr eiddo.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig. 

Asesodd yr arfarniad opsiynau a’r achos busnes ar gyfer darparu seilwaith celfyddydau yn y rhan hon o Belfast ac adnewyddu Strand Arts Centre nifer o opsiynau a nodwyd y prosiect hwn fel yr un sy'n cynnig y gwerth gorau am arian, gan gyflawni amrywiaeth o amcanion polisi drwy ei allbynnau cymdeithasol ac economaidd.

Crynodeb prosiect: Adfer adeilad Strand Arts Centre (SAC) mewn ffordd sy’n manteisio i'r eithaf ar ei statws tirnod treftadaeth ac yn galluogi datblygu gofod creadigol, cynaliadwy o ansawdd uchel mewn ffordd sy’n dod â buddion economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ac amlwg i Ddwyrain Belfast.

Mae gwaith cyfalaf yn cynnwys ailddatblygu'r fynedfa ar gyfer mynediad gwastad, caffi bach a bar ar y llawr gwaelod. Estyniad i gefn yr adeilad ar gyfer mynediad ychwanegol. Adnewyddu'r llawr cyntaf i greu stiwdios dysgu ar gyfer dosbarthiadau dawns, perfformiadau bach, darlleniadau llenyddol. Uwchraddio Theatr 2 ar gyfer cerddoriaeth fyw a dramâu. Adfer y ffenestri Crittal a dinoethi'r trawstiau iard longau dramatig i ddatgelu treftadaeth yr adeilad. Darparu mynediad i'r anabl mewn lifft o'r cyntedd i theatrau newydd.

Gweithiau dehongli amlsynhwyraidd i adrodd stori'r Strand Theatre, sydd wedi'u dylunio i fod yn ddeniadol ac yn hygyrch i gynulleidfa eang â galluoedd ac arddulliau dysgu amrywiol.

Bydd ystod o weithgareddau yn ystod y gwaith cyfalaf yn cynnwys:

  • sinema wib mewn uned wag tra bod yr adeilad ar gau
  • datblygu cysylltiadau gyda chlybiau ffilm rhanbarthol
  • digwyddiadau gyda grwpiau cymunedol a chartrefi gofal i gasglu atgofion o'r sinema goll
  • 'Pop-up Picture House' ar daith gyda thema treftadaeth
  • gweithdai cymunedol amrywiol
  • datblygu taith dreftadaeth a gweithdy taflunio ymarferol i gyd-fynd â hi
  • datblygu pecyn addysg STEM gan gynnwys digidol

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i The Seachange Trust

Dyddiad y grant: 20 Medi 2023

Cyfeirnod: NL-23-00009

Grantï: The Seachange Trust

Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint

Swm y cymhorthdal: £1,968,061

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Galluogi Out There Arts (The Seachange Trust) i gwblhau gwaith atgyweirio, adfer a gosod ar y Tŷ Iâ fel rhan o becyn ariannu ehangach, gan ddarparu'r adeilad i'r cyhoedd ei ddefnyddio am y tro cyntaf.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli penderfynu wedi'u dirprwyo.

Crynodeb o'r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn atgyweirio ac yn adfer Tŷ Iâ Rhestredig Gradd II hanesyddol Great Yarmouth, yr enghraifft olaf o’i fath yn y DU.  Bydd yr adeilad yn dod yn lleoliad diwylliannol aml-ddefnydd: canolfan ragoriaeth ar gyfer creu, hyfforddi a darparu Celfyddydau a Syrcas Awyr Agored, hyb cymunedol hygyrch, lleoliad digwyddiadau a chaffi/bar/teras i 650 o bobl ar lan yr afon.  Bydd Rhaglen Dysgu am Dreftadaeth ac Ymgysylltu Cymunedol Creadigol yn cael ei chyflwyno ar y cyd â’r gwaith cyfalaf, gyda budd penodol i’r cymunedau o amgylch y Tŷ Iâ.

Gwybodaeth Rheoli Cymorthdaliadau mewn perthynas â grant i Red Rose Chain

Dyddiad y grant: 31 Mai 2023

Cyfeirnod:  NM-22-01063

Grantï: Red Rose Chain

Categori buddiolwr: Menter Fach

Swm y cymhorthdal: £232,882

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Mae'r prosiect yn hwyluso mynediad am ddim i weithdai treftadaeth a drama ar gyfer nifer o grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol, y byddent fel arall yn profi anhawster wrth gymryd rhan.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig. 

Crynodeb prosiect: Mae’r prosiect tair blynedd hwn (Medi 2023 i Awst 2026) yn Ipswich, Suffolk, yn defnyddio mythau Eingl-Sacsonaidd i gynnal gweithdai treftadaeth â thema theatr, creu adnoddau dysgu a digidol newydd, a chreu cynyrchiadau drama proffesiynol a chymunedol newydd. Bydd y gweithdai'n ymchwilio, yn ystyried ac yn ail-ddehongli mythau Eingl-Sacsonaidd, gyda rhai grwpiau'n creu cynyrchiadau cymunedol. Bydd grwpiau hefyd yn cyfrannu at arddangosfa a chreu adnodd ar-lein ynghylch yr Eingl-Sacsoniaid.

Mae rhaglen reolaidd y grantî yn ennyn diddordeb pobl ifanc a phobl sy'n byw ag anableddau mewn gweithdai theatr rhad ac am ddim (sydd wedi'u cyfeirio gan themâu treftadaeth a dysgu). Darperir gweithdai hefyd ar gyfer carcharorion oes, ysgolion mewn wardiau difreintiedig, a cheiswyr lloches.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge 

Dyddiad y grant: 12 Mai 2023

Cyfeirnod: NM-22-01000

Grantï: Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge (IGMT)

Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint

Swm y cymhorthdal: £250,000

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Galluogi IGMT i ymestyn ymhellach i mewn i gymunedau lleol ac adeiladu ei chydnerthedd sefydliadol. Bydd hyn yn eu cefnogi i ddiogelu a chynnal eu portffolio o 49 o adeiladau a strwythurau ar draws Safle Treftadaeth y Byd Ceunant Ironbridge.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus. 

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig. 

Crynodeb prosiect: Mae IGMT yn bwriadu cynyddu ei chydnerthedd ariannol tymor canolig i dymor hwy trwy gomisiynu adolygiad allanol o'i model ariannol, buddsoddi yn ei hadran codi arian i gynyddu capasiti, a chomisiynu dadansoddiad segmentiad. Mae IGMT hefyd yn bwriadu ymgyrraedd ymhellach i mewn i gymunedau lleol drwy ariannu swydd i ddatblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer cynyddu ehangder ac amrywiaeth cynulleidfaoedd.

 

Dyddiad y grant: 24 Ionawr 2023

Cyfeirnod:  NM-22-00712

Grantï: Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge (IGMT)

Categori buddiolwr: Menter Fach i Ganolig

Swm y cymhorthdal: £250,000 (Grant wedi'i ddyfarnu)

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Diogelu asedau treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol yn Lloegr a oedd mewn perygl o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19.

Diben y cymhorthdal: Fel rhan o becyn parhaus o arian grant, bydd y prosiect yn helpu IGMT i symud y tu hwnt i'r heriau ariannol a waethygwyd gan COVID-19 a chan lifogydd difrifol dros y blynyddoedd diwethaf.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sefydliadau sector cyhoeddus.  Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig. 

Crynodeb prosiect: Fel rhan o becyn parhaus o arian grant, bydd y prosiect yn helpu IGMT i symud y tu hwnt i'r heriau ariannol a waethygwyd gan COVID-19 a chan lifogydd difrifol dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd mynd i'r afael â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn rhaglen gynhwysfawr yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i barhau â'u gweithrediad, yn hytrach nag 'ymladd tân' a chanolbwyntio dim ond ar atgyweiriadau neu materion diogelwch brys sydd wedi bod yn aros i gael eu cwblhau. Bydd y prosiect hwn yn cefnogi costau cynnal a chadw hanfodol gan ganolbwyntio ar feysydd o waith cynnal a chadw cynlluniedig ac ymatebol a chostau cyflog y staff presennol. Ariannu a gyfyngir gan amser ar sail Adennill Costau Llawn i gefnogi'r sefydliad i gyrraedd sefyllfa fwy cynaliadwy (o ran gallu sefydliadol a chyflwr yr asedau treftadaeth) yw hwn gan ddilyn cyfnod o heriau sylweddol.

 

Dyddiad y grant: 1 Chwefror 2022

Cyfeirnod: MF-21-00078

Grantï: Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge (IGMT)

Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint

Swm y cymhorthdal: £9,974,353

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980. 

Gweinyddwyd y Gronfa Asedau Diwylliannol gan y Gronfa Treftadaeth, a ddosbarthodd arian cymorth grant (gyda chyllid a ddarparwyd gan DCMS fel rhan o Gronfa Adfer Diwylliant ehangach llywodraeth y DU) i gefnogi unrhyw ased treftadaeth sydd o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac a oedd mewn perygl o ganlyniad i effaith y coronafeirws (COVID-19).

Amcan polisi: Diogelu asedau treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol yn Lloegr a oedd mewn perygl o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19.

Diben y cymhorthdal: Diogelu, drwy alluogi atgyweirio a chadwraeth, portffolio o 49 o adeiladau ac adeileddau ar draws Safle Treftadaeth y Byd Ceunant Ironbridge, a darparu gwaddol i alluogi'r grantï i ddychwelyd i hyfywedd ariannol ac i weithredu ar ôl y pandemig.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Roedd yn rhaid i ymgeiswyr i'r Gronfa Asedau Diwylliannol fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw, neu sefydliadau'r sector cyhoeddus.  Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl o ganlyniad i effaith COVID-19.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig. 

Crynodeb Prosiect: Bydd IGMT yn defnyddio'r cyllid cymhorthdal i fynd i'r afael ag ôl-groniad o atgyweiriadau cadwraeth ar 49 o adeiladau ac adeileddau ar draws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn Swydd Amwythig. Mae'r prosiect yn cynnwys rhaglen gwaith cyfalaf tair blynedd a fydd yn galluogi IGMT i ymdrin â'r anghenion cadwraeth mwyaf brys sydd y tu hwnt i'w gallu ariannol ar hyn o bryd, a dychwelyd yr Ymddiriedolaeth i sail ariannol sefydlog er mwyn cynorthwyo adferiad yn sgil COVID-19. Mae'r cymhorthdal hefyd yn cynnwys £4.5m o gyllid gwaddol sydd i'w reoli gan gwmni Rheoli Buddsoddiadau proffesiynol er mwyn cynhyrchu incwm i ariannu gwaith cynnal a chadw cadwraeth parhaus.

Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Paxton17 Ltd 

Dyddiad y grant: 24 Ionawr 2023

Cyfeirnod:  NL-21-000140

Grantï: Paxton17 Ltd.  

Categori buddiolwr:  Menter Fach i Ganolig

Swm y cymhorthdal: £2,677,310 (Grant wedi'i ddyfarnu)

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Bwriad y rhaglen Menter Treftadaeth yw cefnogi datblygiadau na fyddent yn denu diddordeb masnachol, gan olygu nad ydynt yn fasnachol ymarferol. Mae'r cyfrifiad grant wedi'i strwythuro o amgylch y diffyg cadwraeth er mwyn sicrhau bod ein cyfraniad yn cael ei dargedu ac yn gymesur yn briodol â'r gost ailddatblygu.

Diben y cymhorthdal: Mae ein grant yn gyfraniad tuag at y diffyg cadwraeth ynghyd â chostau gweithgareddau. Ymhlith y cynigion mae caffi ac oriel. Bydd ein grant yn cefnogi ailddatblygu'r adeiladau hanesyddol fel stiwdios i artistiaid a thrwy gyfrwng y rhaglen weithgareddau bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd datblygu sgiliau ar gyfer cymunedau lleol.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw, neu'n sefydliadau sector cyhoeddus, neu gallai ymgeiswyr sy'n sefydliadau er elw ffurfio partneriaeth â chorff nid-er-elw. Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl.

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig. 

Crynodeb prosiect: Mae Paxton17 Ltd wedi derbyn grant o dan ein rhaglen Menter Treftadaeth i adfer ac ailddatblygu dau dŷ tref Sioraidd Gradd II* a rhoi defnydd cynaliadwy newydd iddynt fel stiwdios i artistiaid. Bydd ein grant yn cefnogi ailddatblygu'r adeiladau hanesyddol fel stiwdios i artistiaid a thrwy gyfrwng y rhaglen weithgareddau bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd datblygu sgiliau ar gyfer cymunedau lleol.

Gwybodaeth Rheoli Cymorthdaliadau mewn perthynas â grant i Royal Chelsea Hospital  

Dyddiad y grant: 16 Medi 2022

Cyfeirnod:  NL-21-00018

Grantï:  Royal Chelsea Hospital  

Categori buddiolwr:  Mentrau Bach a Chanolig eu Maint

Swm y cymhorthdal: £3,179,089

Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.

Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diben y cymhorthdal: Fel rhan o gynllun cyfalaf ar draws y safle sydd y tu hwnt i gwmpas y prosiect hwn, bydd Soane Stables - sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel storfa ac yn anaddas i'r cyhoedd fynd iddynt – yn cael eu hadfer a'u cyfarparu fel canolfan ymwelwyr. Bydd cyfleoedd dehongli ac ymgysylltu â'r cyhoedd newydd, a rhaglen o weithgareddau, yn hyrwyddo mwynhad y cyhoedd o’r dreftadaeth a’u gwybodaeth amdani.

Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus. 

Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.

Crynodeb Prosiect: Bydd Ysbyty Brenhinol Chelsea yn defnyddio'r cyllid dros dair blynedd a hanner (rhwng mis Medi 2022 i fis Rhagfyr 2025), i wneud gwaith cyfalaf i adnewyddu a chyfarparu Soane Stables. Ar yr un pryd, bydd cynllun gweithgareddau manwl a fydd yn cyflwyno newid sylweddol yn y cynnig i ymwelwyr. Bydd y ganolfan ymwelwyr ar gael i'r cyhoedd ar ôl y prosiect am weddill cyfnod ein contract.