Cynnal Prosiect

Cynnal Prosiect

Os dyfernir grant i'ch prosiect, dyma beth fydd yn digwydd nesaf.

Cyn i’ch prosiect ddechrau

1. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am benderfyniad eich grant

Byddwn yn cysylltu â chi gyda’r newyddion da. Byddwn yn gwneud hyn cyn gynted ag y gallwn ar ôl i benderfyniad gael ei wneud.
Os nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus, dyma beth fydd yn digwydd nesaf:

  • grantiau o dan £100,000 byddwch yn derbyn llythyr yn manylu ar ein penderfyniad. Byddwn yn ceisio rhoi syniad clir a ddylech geisio cryfhau eich cais ac ailymgeisio.
  • grantiau o fwy na £100,000 byddwch yn derbyn galwad ffôn yn nodi’r rhesymau ac yn rhoi cyngor ar y camau nesaf priodol

2. Byddwch yn derbyn llythyr i gadarnhau eich grant

Bydd y llythyr yma yn eich tywys drwy'r gwahanol gamau yn y broses ariannu. O'r ffordd y telir eich grant, i beth i'w wneud pan fydd eich prosiect yn dod i ben. Byddwn yn anfon y llythyr yma o fewn wythnos ar ôl i benderfyniad gael ei wneud.

Mae’r llythyr yn cynnwys:

  • ein telerau grant i egluro beth rydym yn ei ddisgwyl gennych
  • dogfen canllaw Derbyn Grant i egluro beth sydd angen ei wneud nesaf

3. Cwblhau Caniatâd i Ddechrau

Ni allwch ddechrau eich prosiect cyn i'r cam yma gael ei gwblhau. Mae angen i chi lenwi'r ffurflen Caniatâd i Ddechrau ar-lein ac anfon copi wedi’i lofnodi atom, naill ai drwy'r Porth Ymgeisio, e-bost neu'r post. Mae'n rhaid iddo gael ei lofnodi gan ddau o bobl sy’n gallu llofnodi dogfennau ar ran eich sefydliad, a chynnwys y dogfennau ategol perthnasol a restrir isod.

Mae dogfennau y bydd angen i chi eu hanfon atom gyda'r ffurflen Caniatâd i Ddechrau yn cynnwys:

  • tystiolaeth o arian cyfatebol llythyr gan sefydliadau sy'n darparu cymorth ariannol
  • manylion cyfrif banc eich sefydliad copi o gyfrif banc, siec neu slip talu i mewn

4. Cytuno ar amserlen adrodd yn ôl

Byddwn yn gwneud hyn wyneb yn wyneb neu ar y ffôn. Byddwn yn cytuno ar amserlen ar gyfer adrodd ar gynnydd eich prosiect a cheisiadau am daliadau grant.

  • Ar gyfer grantiau o dan £10,000 unwaith y bydd y prosiect wedi dod i ben, bydd gofyn i chi anfon adroddiad diwedd grant atom. Gweler y canllawiau Derbyn Grant am fanylion.
  • Ar gyfer grantiau o £10,000 i £100,000 bydd angen i chi anfon adroddiad cynnydd a chais am daliad atom hanner ffordd drwy eich prosiect i dderbyn ail daliad eich grant, sy'n cyfateb i 40% o gyfanswm eich grant. Ar ddiwedd eich prosiect, bydd angen i chi anfon adroddiad diwedd grant a chais am daliad i ni ar gyfer y 10% terfynol. Gweler y canllawiau derbyn grant am fanylion.
  • Ar gyfer grantiau mwy na £100,000 bydd eich amserlen ar gyfer adrodd yn ôl yn cael ei phennu gennym ni yn seiliedig ar eich anghenion. Mae hyn yn debygol o fod yn chwarterol. Byddwn hefyd yn cytuno ar amserlen o gyfarfodydd i’ch cefnogi drwy gydol y broses o gyflawni'ch prosiect. Darllenwch y canllaw Derbyn Grant am fanylion.

Unwaith y bydd eich prosiect ar y gweill

5. Dywedwch wrthym ni sut rydych chi wedi gwario’r arian

  • Ar gyfer grantiau hyd at £100,000 darllenwch y canllaw Derbyn Grant am fanylion
  • Grantiau o £100,000 a throsodd yn cael eu talu mewn ôl-daliadau mae hyn yn golygu bod angen i chi ddarparu prawf o'r hyn rydych chi wedi'i wario ar y prosiect er mwyn derbyn arian

6. Anfon adroddiad cynnydd atom ni

Bydd yr amserlen ar gyfer anfon yr adroddiadau hyn yn seiliedig ar y rhestr y cytunwyd arni cyn i'ch prosiect ddechrau. Darllenwch y canllaw Derbyn Grant am fanylion sy'n berthnasol i'ch grant.

Pan fydd eich prosiect wedi dod i ben

7. Darparu adroddiad diwedd prosiect ac adroddiad gwerthusiad

Ar ôl cwblhau eich prosiect, anfonwch yr adroddiadau atom i nodi diwedd eich prosiect.

Os yw eich grant yn fwy na £10,000, ni fyddwn yn gallu rhyddhau'r 10% olaf o'r arian hyd nes y byddwn yn derbyn yr adroddiadau hyn.

Gellir dod o hyd i’r adroddiad diwedd prosiect ar y Porth Ymgeisio. Mae'r adroddiad gwerthuso yn adroddiad rydych chi'n ei ysgrifennu eich hun.

I gael rhagor o fanylion, darllenwch ganllawiau Derbyn Grant. Rydym hefyd yn anfon y canllawiau atoch gyda llythyr yn cadarnhau eich grant.