Sut i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect treftadaeth

Sut i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect treftadaeth

Three young men carrying willow

Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein treftadaeth, ein cymdeithas a'n hamgylchedd naturiol.

Rydym am i'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu leihau – neu helpu lleoedd a phobl i addasu i – effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn disgwyl i bob un ohonynt gael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd ac rydym yn ystyried effeithiau amgylcheddol prosiect yn ein penderfyniadau.  

Mae hyn yn berthnasol i bob prosiect – p'un a yw ein cyllid yn cefnogi tirwedd gyfan, adfywio parc lleol, adnewyddu amgueddfa neu ddod â chymuned at ei gilydd.

Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau

Er mwyn cyrraedd ein gofyniad cynaliadwyedd amgylcheddol, rydym yn disgwyl i bob prosiect rydym yn ei ariannu:

  • cyfyngu ar unrhyw ddifrod posibl i'r amgylchedd  
  • cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar gyfer natur  

Bydd cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn eich prosiect o'r dechrau yn golygu bod eich prosiect yn debygol o fod yn fwy gwydn, yn gynaliadwy yn ariannol ac yn dod â manteision lluosog i bobl a'r gymuned.  

Rydym yn disgwyl gweld cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o benderfyniadau ymgeiswyr. Dylech hefyd ystyried sut i fesur eich cynaliadwyedd amgylcheddol a sicrhau bod hyn yn rhan o'ch strategaeth werthuso.

Cysylltiadau hanfodol

Ein gofyniad cynaliadwyedd amgylcheddol.

Darllenwch ein canllawiau arferion da manwl

Cael gafael ar gymorth ymarferol gan rwydwaith Addas i'r Dyfodol