Ein heffaith

Tudalen wedi'i chreu: 17 Mehefin 2021
Ers i ni gael ein sefydlu ym 1994, rydym wedi buddsoddi £8.3biliwn mewn mwy na 49,000 o brosiectau ledled y DU.
Mae hyn yn cynnwys:
- dros £3bn i bron i 10,000 o brosiectau ardal, adeiladu a henebion
- dros £500m i 26,700 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol
- bron £590m i fwy na 1,400 o brosiectau diwydiannol, morol a thrafnidiaeth
- dros £1.8bn i fwy na 4,200 o brosiectau tir, natur a bioamrywiaeth
- dros £2.2bn i fwy na 5,600 o brosiectau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau
Archwiliwch ein gwaith yn fanylach.
Ein cefnogaeth yn sgil COVID-19
Ym mlwyddyn ariannol 2020/21 fe wnaethom fuddsoddi mwy na £400m o arian i'r sector treftadaeth (cynnydd o 50% ar ein swm arferol), gan fod o fudd i fwy na 1,500 o sefydliadau treftadaeth. Gwnaethom hefyd ddarparu arbenigedd a chyngor ar addasu i'r pandemig.
Roedd ein dosbarthiad o arian yn cynnwys:
- Cronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50m, yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
- Cronfa Adfer Diwylliant gwerth £44m ar gyfer Treftadaeth ar ran yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Ac ym mis Ebrill 2021 dyfarnwyd £44m arall i ni mewn ail rownd o'r gronfa.
- Cronfa Cicdanio Cyfalaf Treftadaeth gwerth £19 miliwn ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
- Cronfa Her Adfer Gwyrdd £40m ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)
- mwy na £4m o gyllid gan Lywodraeth Cymru
- mwy na £5m gan Yr Adran Gymunedau yng Ngogledd Iwerddon
Yn ogystal, rydym yn:
- dosbarthu £3.5m o gymorth wedi'i dargedu i dderbynwyr yn ein Hardaloedd Ffocws, ardaloedd awdurdodau lleol difreintiedig sydd wedi cael y cyllid lleiaf gennym ni
- cynnig benthyciadau di-log rhwng £50,000-£250,000 hyd at gyfanswm o £1.2m
- cyflymu'r ddarpariaeth o'n menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth gwerth £2.5m
- cyflwyno cyfres gwerth £4m o raglenni cymorth busnes a datblygu menter i gefnogi gwydnwch y sector
- ymrwymo £2m i ariannu ein rhwydwaith o ymgynghorwyr ROSS, sy'n darparu arbenigedd a chyngor technegol fel mentora, monitro a helpu gyda chynlluniau busnes
- parhau i gefnogi mwy na 2,500 o brosiectau ym maes datblygu a chyflawni, gan gynnwys £23m o godiadau grant
Dysgwch fwy am ein cefnogaeth COVID-19.
Y gwahaniaeth y mae Cronfa Argyfwng Treftadaeth wedi'i wneud
Daeth gwerthusiad o'n cronfa argyfwng o £50m i gasgliad ein bod wedi:
- cefnogi dros 2,400 o rolau cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol gan ein cyllid
- dod â mwy na 1,400 o staff yn ôl o ffyrlo
- cefnogi dros 14,700 o rolau gwirfoddolwyr yn uniongyrchol
Dysgwch fwy am effaith y Gronfa Argyfwng Treftadaeth.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
Ni allem wneud hyn i gyd heb y rhai sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol. Bob wythnos mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36m at achosion da.
Ers 1994, mae dros £43biliwn bellach wedi'i godi ac mae dros 635,000 o grantiau unigol wedi'u gwneud ledled y DU – sy'n cyfateb i tua 225 o grantiau loteri ym mhob ardal cod post yn y DU.