Canllaw gwerthuso hyfywedd a datblygiad Menter Treftadaeth

Canllaw gwerthuso hyfywedd a datblygiad Menter Treftadaeth

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer unigolion sy'n gwneud cais am grantiau drwy'r rhaglen Menter Treftadaeth. Mae'n egluro pwrpas gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad a bydd yn eich helpu i baratoi neu gomisiynu'r gwerthusiadau hyn. Dylid ei ddarllen ar y cyd â phrif ganllawiau cais Menter Treftadaeth.

Cyfwyniad

Mae'r rhaglen Menter Treftadaeth ar gyfer prosiectau sy'n ceisio sicrhau twf economaidd drwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Mae'n bennaf ar gyfer sefydliadau cymunedol a phartneriaethau mentrus rhwng sefydliadau masnachol a sefydliadau cymunedol, i'w helpu i achub adeiladau a safleoedd hanesyddol sydd wedi'u hesgeuluso a'u dychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol hyfyw.

Cynlluniwyd Menter Treftadaeth i bontio'r bwlch ariannu sy'n atal ased hanesyddol sydd angen ei atgyweirio rhag cael ei ddychwelyd i ddefnydd buddiol a masnachol. Bydd yr achos dros gyllid grant yn dibynnu ar fodolaeth diffyg cadwraeth. Dyma le mae gwerth presennol ased treftadaeth ynghyd â chost dod ag ef yn ôl i ddefnydd yn fwy na gwerth yr ased ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau.

Drwy gau'r bwlch (cwrdd â'r diffyg cadwraeth) rydym yn gobeithio annog mwy o gyfranogiad gan y sector preifat mewn llawer o brosiectau Menter Treftadaeth, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol i gyflawni prosiectau sy'n fasnachol hyfyw. Nid yw cynnwys y sector preifat yn orfodol, ond fe'i hanogir.

Ariannu'r diffyg cadwraeth

Bydd ceisiadau am grantiau drwy'r rhaglen Menter Treftadaeth yn cael eu hystyried ar sail y diffyg cadwraeth yn unig ac nid ar anallu'r ymgeisydd i ariannu cynllun sy'n fasnachol hyfyw. Bydd angen i chi roi syniad o'r diffyg cadwraeth drwy gyflwyno gwybodaeth o werthusiad hyfywedd yn eich cais cyfnod datblygu (rownd-gyntaf). Yna bydd y diffyg cadwraeth yn cael ei gyfrifo drwy baratoi gwerthusiad datblygiad, ar ôl dyfarnu caniatâd yn y cyfnod-datblygu.

Fe'ch cynghorir yn gryf i geisio cymorth proffesiynol gan brisiwr cofrestredig RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) neu'ch partner masnachol i baratoi eich gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad.

Gallwch wneud cais i ni am grant i helpu i baratoi'r gwerthusiad hyfywedd cyn i chi wneud cais am grant Menter Treftadaeth. Gallwch gynnwys costau paratoi gwerthusiad datblygu yn eich cais yn y cyfnod-datblygu.

Fel rhan o'n proses asesu, bydd eich gwerthusiad datblygiad yn destun craffu proffesiynol er mwyn canfod a yw:

  • lefel y grant a geisir yn briodol (fel y'i pennir gan y cyfrifiad diffyg cadwraeth)
  • graddau enillion y datblygwr yn deg ac yn rhesymol

Byddwn yn penodi ein prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ein hunain i weithio gyda'ch prisiwr datblygu chi i gytuno ar y cyfrifiad diffyg cadwraeth a swm y grant a geisir yn y cyfnod cyflawni (ail-rownd).

Beth yw pwrpas gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad?

Mae'r ddau yn ateb yr un diben: cyfrifo'r diffyg cadwraeth. Cânt eu cynnal ar wahanol adegau yn y broses o ymgeisio am grant.

Gwerthusiadau hyfywedd

Mae gwerthusiad hyfywedd yn rhan o'r cais ar gyfer cam datblygu grant eich prosiect. Dylai:

  • Ystyried yr opsiynau amrywiol ar gyfer defnydd terfynol cynaliadwy ar gyfer eich adeilad neu safle
  • Roi syniad bras cychwynnol o gostau, gwerthoedd a maint tebygol y diffyg cadwraeth
  • Ddangos bod y cais cyfnod datblygu yn dod o fewn cwmpas y rhaglen Menter Treftadaeth, a bod swm y grant y gwneir cais amdano yn briodol

Gwerthusiadau datblygiad

Mae gwerthusiad datblygiad yn rhan o'r cais ar gyfer cam cyflawni grant eich prosiect. Dylai:

  • Nodi'r defnydd terfynol arfaethedig ar gyfer yr adeilad neu'r safle, ac egluro'n glir pam mai dyma'r opsiwn gwell
  • Darparu amcangyfrif manwl a llawn o gostau adeiladu, gorbenion ac enillion y datblygwr
  • Nodi'n glir werth marchnad y datblygiad ar ôl ei gwblhau, ac felly faint o grant sydd ei angen mewn gwirionedd i dalu am y diffyg cadwraeth

Bydd prisiwr a rheolwr buddsoddi Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cadarnhau a yw swm y grant y gwnaed cais amdano yn eich cais cyfnod-cyflawni yn briodol, ar sail y wybodaeth yn eich gwerthusiad datblygiad.

Pam fod gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad yn bwysig

Mae gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad yn rhan allweddol o'r broses cynllunio busnes i chi (yr ymgeisydd am grant) a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel cyllidwr. Ar eu mwyaf sylfaenol, maent yn gyfrifiad llif arian sy'n ystyried yr holl wariant ac incwm yn y broses ddatblygu er mwyn nodi'r diffyg cadwraeth. Ac eto gallant fod yn llawer mwy na chyfrifiad.

Gall y wybodaeth mewn gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad eich helpu i:

Gynllunio a rheoli eich prosiect

Mae gwerthusiadau a phriswyr wrth wraidd cynllunio busnes a phrosiect da. Ni ddylid ystyried gwerthusiad fel gweithgaredd ‘ticio blwch’ yn y broses o gael grant. Mae'n cofnodi'ch holl syniadau a thybiaethau wrth wneud cais am grant. Mae hefyd yn eich galluogi i gadw golwg o'r dechrau, rhoi eich rhagdybiaethau a gwahanol sefyllfaoedd ar brawf, newid amcangyfrifon yn symiau gwirioneddol, a dysgu o'r broses o newid ac addasu i amgylchiadau. Mae gwerthusiad hefyd yn arf hanfodol ar gyfer rheoli prosiectau hyd at ddiweddglo llwyddiannus, yn enwedig pan fo amgylchiadau, costau a newidynnau allweddol eraill yn dechrau newid - fel sy'n digwydd yn aml.

Nodi costau'r prosiect

Nid yw'n hawdd rhagweld costau treftadaeth gydag unrhyw sicrwydd, ond os ydych yn deall y costau atgyweirio a datblygu'n llawn ar y dechrau, mae gwell siawns gennych o ragweld yr angen ariannol a sicrhau bod eich prosiect yn fasnachol hyfyw.

Godi cyllid

Gan mai dim ond i helpu i ariannu'r diffyg cadwraeth y mae eich grant Menter Treftadaeth wedi'i gynllunio, mae'n debygol y bydd angen i chi godi arian o ffynonellau eraill i gyflawni a chwblhau eich prosiect. Drwy nodi costau a gwerth terfynol eich prosiect yn glir, a thrwy ddangos ei hyfywedd masnachol, gall gwerthusiadau o ansawdd da eich helpu i wneud cais llwyddiannus am fenthyciadau/grantiau o ffynonellau eraill.

Gwblhau eich ffurflenni cais Menter Treftadaeth

Bydd eich gwerthusiadau yn eich helpu i gynhyrchu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau eich ceisiadau yn y cyfnod datblygu a darparu. Er enghraifft, wrth feddwl am yr opsiynau ar gyfer defnydd terfynol eich adeilad neu safle, byddwch yn asesu sut y byddant yn cyflawni o ran egwyddorion buddsoddi Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dod o hyd i'r prisiwr datblygiad cywir

Rhaid i briswyr datblygiad allu edrych y tu hwnt i niferoedd crai gwerthusiadau a'r ddau bwynt yng nghylchred y prosiect pan fydd rhaid i chi gyflwyno'ch gwerthusiadau i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rhaid i'ch prisiwr datblygiad hefyd allu:

  • deall a dehongli cymhlethdod yr hyn sydd wedi'i gynnwys yng ‘nghanlyniad’ y gwerthusiad
  • cyfathrebu i chi (y cleient, a'ch partneriaid a rhanddeiliaid) oblygiadau ‘canlyniad’ y gwerthusiad, ac awgrymu'r camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod y prosiect yn hyfyw ac yn parhau i fod yn hyfyw
  • troi ‘canlyniad’ y gwerthusiad yn argymhelliad clir i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar swm y grant sydd ei angen
  • negodi a chyfathrebu â phrisiwr a rheolwr buddsoddi Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ar eich rhan

Mae'n hynod bwysig eich bod yn penodi'r person cywir i baratoi'r gwerthusiad ar eich cyfer. Am ragor o wybodaeth, gweler Awgrymiadau ar recriwtio prisiwr datblygiad (adran 10).

Rôl prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Bydd prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn:

  • archwilio a dilysu'r gwerthusiad datblygiad a gyflwynwyd gennych chi
  • gwneud argymhellion i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ynghylch dyfarnu'r grant, yn llawn neu'n rhannol
  • cynghori Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddylai'r dyfarniad fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau

Nid yw arfarnwyr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am wneud y gwerthusiad ar eich rhan, ond bydd ganddynt rôl fel galluogwyr ‘llawysgafn’. Byddant am sicrhau eich bod chi a'ch cynghorwyr wedi mabwysiadu methodoleg gwerthusiad datblygiad sy'n briodol i raddfa a math eich prosiect.

Paratoi eich gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad

Mae'r canllaw cais Menter Treftadaeth yn darparu canllaw cam wrth gam clir i'r broses o wneud cais ac yn cyflwyno trosolwg o'r wybodaeth sydd ei hangen yn y gwerthusiadau hyfywedd a datblygiad.

Mae'r canllaw yn cynnwys templed (adran 9) ar gyfer y gwerthusiad hyfywedd a'r gwerthusiad datblygiad sy'n nodi strwythur pob adroddiad. Mae'n egluro'r hyn y dylid ei gynnwys ym mhob adran a sut i gael y wybodaeth sydd ei hangen.

Dylai eich gwerthusiad datblygiad ddilyn yr un templed sylfaenol â'ch gwerthusiad hyfywedd ond yn llawer mwy manwl. Mae'r adrannau isod yn amlygu rhai cwestiynau allweddol y dylech feddwl amdanynt wrth gwblhau eich gwerthusiad datblygiad.

Eich nod yw helpu prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wneud dyfarniad cadarn ar gryfder a hygrededd eich sefydliad, eich gwerthusiad datblygiad, a'ch cais cyfnod cyflawni.

Wrth baratoi eich gwerthusiad datblygiad, cofiwch ei fod yn fwy na chyfrifiad yn unig. Mae'n rhan o'r broses o ‘ddweud stori’ y prosiect. Mae ein canllaw gwerthuso yn cynnwys adrannau defnyddiol sy'n berthnasol i'r ddau gam cynllunio prosiect, yn ogystal â gwerthuso eich prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau.

Gwneud y gwerthusiad datblygiad

Mae'r enghraifft yn Atodiad 1 o'r canllaw cais Menter Treftadaeth yn dangos hanfodion dull gwerthuso gweddilliol o gyfrifo. Bydd y dull hwn yn rhoi ‘canlyniad’ i chi a fydd yn dweud wrthych a all y prosiect adennill costau neu well, neu wneud colled. Os yw’n golled, daw'r grant Menter Treftadaeth i rym i wneud iawn am y golled (h.y. ariannu'r diffyg cadwraeth).

Bydd eich prisiwr datblygiad eich hun yn eich cynghori ar unrhyw dechnegau gwerthuso eraill y gallai fod angen arnoch, ond fel arfer gallech strwythuro eich gwerthusiad cynllunio a datblygu prosiect eich hun gan ddefnyddio'r elfennau canlynol:

Dadansoddiad opsiynau / Gwerthusiad o'r effaith economaidd

Yn y gwerthusiad hyfywedd, gofynnir i chi ddangos eich bod wedi ystyried ystod o opsiynau ac wedi dewis yr un a fydd yn sicrhau'r defnydd hyfywedd gorau posibl sy'n briodol ar gyfer yr ased treftadaeth dan sylw. Yn ystod y cam gwerthusiad datblygiad manylach, mae angen ailedrych ar y broses hon i sicrhau bod eich rhagdybiaethau cynnar am wahanol opsiynau posibl yn dal yn ddilys. Ai yw ffordd ddewisol o gyflawni'r prosiect yn dal i fod yr un iawn, neu a ddylid ystyried dewisiadau eraill newydd nawr hefyd?

Y dull dadansoddi opsiynau

Gall hyn fod yn eithaf syml neu'n gymhleth iawn. Bydd angen i'ch prisiwr datblygiad, mewn ymgynghoriad â phrisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ddweud wrthych ba mor fanwl y dylai'r dadansoddiad opsiynau fod (yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich prosiect) ac a oes nifer digonol o ddewisiadau amgen gwirioneddol arwyddocaol a ddylai gael eu profi.

Prif bwrpas y dadansoddiad o opsiynau

Dylai hyn gymharu dewisiadau amgen (gan edrych ar uchafswm o dri opsiwn yn fanwl) a phenderfynu pa un sydd fwyaf tebygol o:

  • gyflawni'r canlyniadau dymunol – effeithiau ansoddol fel arfer
  • gyflawni'r allbynnau gofynnol – canlyniadau mesuradwy fel arfer
  • sicrhau bod cost y prosiect yn fforddiadwy ac yn cael ei ystyried yn werth da i gymdeithas yn gyffredinol

Bydd hyn yn berthnasol ar gyfer gwerthusiadau syml a chymhleth.

Yr hyn mae prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol eisiau ei weld

Bydd prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gael ei argyhoeddi y bod proses gadarn wedi arwain at achos ystyriol dros ddewis yr opsiwn gwell, sydd hefyd yn cael cefnogaeth gan bartneriaid y prosiect a’u rhanddeiliaid. Dylai eich dadansoddiad opsiynau:

  • anelu at edrych ar bob agwedd ar y prosiect yn systematig ac yn gynhwysfawr, ar gyfer yr opsiwn sydd well gennych ac unrhyw opsiynau y byddwch yn penderfynu eu dileu
  • ddarparu proses ar gyfer ymgysylltu â'r holl bobl allweddol sy'n ymwneud â phrosiect, wrth wneud eu barn am bwysigrwydd cymharol un opsiwn dros y llall
  • gael ei ddefnyddio i ddod â rhanddeiliaid ynghyd a, gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y dadansoddiad, dylai eich helpu i ddod i gonsensws neu gytundeb mwyafrifol, neu addasu'r prosiect i gynnwys gwahanol flaenoriaethau ac amcanion

Gwerthusiad effaith economaidd

Byddwn am asesu effaith economaidd eich prosiect i amcangyfrif ei gyfraniad at dwf economaidd lleol. I gyflawni hyn, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth sylfaenol benodol fel y nodir yn Adran 4 o'r templed isod. Bydd angen i chi ystyried a yw canlyniadau economaidd eich prosiect yn ychwanegol (yn arwain at weithgarwch economaidd newydd) neu'n ganlyniad o ddadleoli (wedi symud o ran arall o'r dref/dinas) neu bwysau marw (byddai wedi digwydd naill ffordd, waeth beth fo prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol).

Fel rhan o'ch ymgynghoriadau lleol, dylech fod mewn cysylltiad â phobl fusnes lleol. Siaradwch â nhw am eu cynnydd, er enghraifft:

  • Trosiant busnes
  • Nifer yr ymwelwyr sy'n mynd heibio eu hadeiladau busnes
  • Ystod nwyddau a gwasanaethau y maent yn eu darparu
  • Nifer y bobl y maent yn eu cyflogi

Nodwch y rhain, a thrafodwch gyda'r busnesau lleol, naill ai'n unigol neu ar y cyd, pa fath o newidiadau y gallent ddychmygu yn digwydd o ganlyniad i'ch prosiect. Gall rhai o'r rhain fod yn fanwl gywir a meintiol; gall eraill fod yn fwy goddrychol ac ansoddol. Mae'r ddau yn dda a gellir eu hysgrifennu fel stori o'r hyn rydych chi'n gobeithio fydd yn digwydd.

Gallech hefyd gynnwys busnesau a allai ddod yn gyflenwyr gwasanaethau sylweddol i'r datblygiad gorffenedig.

Yna gallwch ailedrych ar eich stori, wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, fel rhan o'r gwerthusiad parhaus ac ar ôl cwblhau'r prosiect. Dylid cofnodi straeon unigol am newid busnes a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt, oherwydd gall y weithred o gyhoeddi hefyd fod yn ysgogiad ar gyfer mwy o fuddsoddiad a gweithgaredd busnes. Mae ein canllaw gwerthuso yn cynnwys adrannau defnyddiol ar bwy i ofyn, sut i ofyn, a pha fath o gwestiynau i'w gofyn.

Sector preifat - gwerthusiad buddsoddiad/llif arian gostyngol

Bydd angen i'ch prisiwr gyfrifo gwerth unrhyw ran o'r cynllun sy'n cynhyrchu rhent neu incwm arall i weld faint o gyllid preifat y gellir ei gynnwys yn y prosiect, cyn i chi allu cyfrifo'r diffyg cadwraeth a maint y grant y bydd ei angen arnoch.

Efallai y bydd eich prisiwr yn defnyddio prisiad buddsoddiad yn seiliedig ar yr incwm rhent a ragwelir, cryfder ariannol y defnyddiwr a hyd y brydles yn seiliedig ar gyfraddau marchnad tebyg lle cynigir prydlesu'r adeilad i un neu fwy o feddianwyr. Dylai prisiad y farchnad gydymffurfio â Phrisiad RICS – Safonau Proffesiynol (y 'Llyfr Coch').

Fel arall, efallai y bydd angen llif arian gostyngol o gostau perthnasol ac incwm o wasanaethau i ddangos y gwerth buddsoddi a grëwyd. Dylai hyn gynnwys:

  • costau perthnasol – er enghraifft costau arferol sy'n cael eu hystyried yn briodol i'r math o ddefnydd, cytundebau defnyddwyr, gweithgarwch gwasanaeth, costau rheoli, cynnal a chadw a chronfeydd ad-dalu
  • incwm perthnasol – er enghraifft o werthiannau, trwyddedau, archebion

Er bod y contract rhyngoch chi a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn para am 10 mlynedd, ni ddylai'r cyfnod prisio gael ei gyfyngu i hyd y contract.

Mae'r ddwy gost ‘ychwanegol’ ganlynol yn cael eu hychwanegu at gyfanswm y costau cyflawni ar ôl cyfrifo'r diffyg cadwraeth, ond cyn cyfrifo maint y grant Menter Treftadaeth (h.y. ni ddylai fod unrhyw effaith net ar y prisiad):

  • Caniateir  costau rheoli a chynnal a chadw uwchfel grant ar gyfer y blynyddoedd cyntaf o feddiannaeth, hyd at uchafswm o bum mlynedd.
  • Caniateir  costau gweithgarwch fel grant am gyfnod contract Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Costau oesgyfan

Bydd angen cyfrifo costau rheoli a chynnal a chadw'r adeilad yn y dyfodol, am y cyfnod o bum mlynedd pan fydd modd rhoi cyfrif am unrhyw gostau rheoli a chynnal a chadw uwch yn y dyfarniad grant ac am y tymor hir iawn. Bydd angen atgyweirio ac adnewyddu prif elfennau'r adeilad. Mae'n debyg y bydd gan adeiladau hanesyddol ddyfodol mwy cymhleth, felly mae hyn yn arbennig o bwysig i chi.

Efallai y bydd angen i chi wneud asesiad pwrpasol ar gyfer eich adeilad, gydag arbenigwr, yn hytrach na dibynnu ar fodelau ariannol safonol. Bydd hyn yn rhan bwysig o Ddogfen Ategol 32 - Y cynllun rheoli a chynnal a chadw, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar gyfer Dogfen Ategol 21 - Rhagolygon incwm a gwariant am y pum mlynedd gyntaf a/neu Ddogfen Ategol 33, Y cynllun busnes prosiect ar gyfer ceisiadau grant dros £2m.

Pan fydd adeilad yn cael ei brydlesu, bydd angen i'r cynllun rheoli a chynnal a chadw nodi'n glir pwy fydd yn gyfrifol am drefnu atgyweiriadau a chynnal a chadw a sut bydd y costau'n cael eu talu – y perchennog (drwy dâl gwasanaeth) neu'r tenant (os caiff ei brydlesu ar sail atgyweirio llawn).

Diffyg cadwraeth a chyfrifo grant Menter

Dylech ddilyn y cyfrifiad sampl yn y canllaw cais Menter Treftadaeth fel y templed ar gyfer cyfrifo'r diffyg cadwraeth. Dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â chostau prosiect y gall Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol eu talu. Mae'r canllawiau'n disgrifio'r gwahanol gategorïau cost ond nid yw'n diffinio safonau na chwmpas yr holl gostau. Maent yn parhau i fod yn fater o farn i’r ymgeisydd a’i dîm proffesiynol, yn ogystal ag i'r prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ond at ddibenion y rhaglen Menter Treftadaeth, dylid tybio bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn diffinio costau prosiect rhesymol i gynnwys yr holl waith atgyweirio a datblygu hyd at ffitiad sylfaenol.

Rhaid i gostau rhesymol ymwneud â'r prif amcan o wneud yr hyn sy’n angenrheidiol i adfer a diogelu'r dreftadaeth ac i gyflawni canlyniadau'r prosiect a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn benodol:

  • Gwaith atgyweirio a chadwraeth, a all gynnwys costau gwaith atgyweirio, adfer nodweddion pensaernïol coll, neu warchod ffabrig yr adeilad treftadaeth a'i leoliad (ond nid yw'n cynnwys ffitiadau ac offer).
  • Gwaith adeiladu, offer a deunyddiau newydd, a all gynnwys costau ffitiadau a chyfarpar sylfaenol i wneud adeilad yn ddefnyddiadwy ac yn werthadwy. Dylai hyn ganolbwyntio ar greu gwerth a defnyddio a rheoli'r adeilad yn gost-effeithiol i gefnogi'r gweithgareddau sy'n cyfiawnhau'r buddsoddiad masnachol, a chymorth grant i'r dreftadaeth.

Mewn rhai marchnadoedd, cydnabyddir y gallai fod yn rhaid i ffitiadau ac offer sylfaenol fod yn fwy helaeth er mwyn denu a chadw meddianwyr a thrwy hynny wneud y mwyaf o botensial datblygiad economaidd y prosiect. Bydd angen i chi ddangos sut rydych wedi cyrraedd y cydbwysedd cywir rhwng costau y dylai'r deiliad eu talu a'r diffyg cadwraeth.

Bydd angen nodi swm y cynnydd yng ngwerth yr ased treftadaeth cyn ac ar ôl cwblhau'r prosiect fel cyfraniad arian parod a chofnod ar wahân yn y tabl ariannu ar eich ffurflen gais (Tabl 6g Incwm cyfnod cyflawni).

Cwblhau'r gwerthusiad datblygiad

Dylai'r gwerthusiad gynnwys y pedair elfen a ddisgrifir uchod. Lle darperir gwybodaeth gefndir fanylach yn y dogfennau ategol, dylid cyfeirio'n glir atynt i helpu prisiwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth ategol sydd ei hangen.

Fel Dogfen Ategol 1, mae'r arfarniad datblygu yn defnyddio dogfennau ategol eraill ar gyfer mewnbynnau allweddol, gan gynnwys:

  • Amserlen y prosiect
  • Rhagolwg llif arian
  • Incwm a gwariant am y pum mlynedd gyntaf
  • Taenlen costau'r prosiect
  • Cyfrifiad adennill costau llawn
  • Cynllun busnes y prosiect (ar gyfer ceisiadau grant dros £2m)

Dylid cyflwyno testun esboniadol gyda'r diffyg cadwraeth a'r cyfrifiad grant Menter Treftadaeth er mwyn sicrhau bod gan werthuswr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ddarlun llawn o'r prosiect. Mae hyn er mwyn gallu gwneud argymhelliad am grant gyda chyn lleied â phosibl o ymchwiliad ychwanegol a heb ofyn i chi am ragor o wybodaeth ac eglurhad.

Templed gwerthusiad hyfywedd a datblygiad

Mae'r templed hwn yn seiliedig ar Ganllawiau Grant Hyfywedd Prosiect a gynhyrchwyd gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol www.ahfund.org.uk. Mae'n defnyddio'r un iaith ac yn rhestru'r un gofynion, ond yn wahanol pan fydd angen gwybodaeth ychwanegol i gefnogi cais am grant Menter Dreftadaeth.

Ni ddylai adroddiad gwerthusiad hyfywedd fod yn fwy nag wyth tudalen A4 (heb gynnwys atodiadau) mewn maint ffont safonol. Mae gwerthusiad datblygiad yn debygol o fod yn llawer hirach gan y bydd yn cynnwys mwy o fanylion am eich prosiect.

Adran 1 – Cefndir

Gwerthusiad hyfywedd a gwerthusiad datblygiad

  1. Enw'r sefydliad
  2. Rhif/enw'r adeilad, cyfeiriad yr adeilad, cod post
  3. Crynodeb byr o arwyddocâd y dreftadaeth, h.y. pwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol yr adeilad. Ni ddylai hwn fod yn ddarn hir o waith: dim ond eitemau perthnasol a phwysig sy'n ychwanegol at y rhestriad statudol a allai fod o ddiddordeb.
  4. Sut mae eich sefydliad yn cymryd rhan yn y prosiect. Er enghraifft, a gysylltodd cyngor lleol neu grŵp partneriaeth â chi ynghylch yr adeilad? A ffurfiodd eich sefydliad yn benodol i achub yr adeilad? A oes gan eich sefydliad amcanion eraill a fyddai'n cael eu hyrwyddo drwy ymgymryd â'r adeilad?
  5. Unrhyw weithgareddau arwyddocaol rydych eisoes wedi'u cyflawni a manylion unrhyw ymdrechion blaenorol i ailddefnyddio'r adeilad. Er enghraifft, a ydych chi wedi cynnal unrhyw weithgareddau codi cyhoeddusrwydd fel Diwrnod Agored Drysau neu gyfarfodydd cymunedol? A wyddoch chi am ymdrechion blaenorol i adfer yr adeilad? Beth oedden nhw; ydych chi'n gwybod pam eu bod wedi methu?
  6. Pam fod yr adeilad mewn perygl a pham nawr yw'r amser i fynd i'r afael â'r adeilad. Eglurwch pam fod yr adeilad mewn perygl boed oherwydd problemau swyddogaethol, strwythurol, ariannol a/neu broblemau eraill. Hefyd, eglurwch pam mai nawr yw'r amser i fynd i'r afael â'r adeilad: a yw'r risg yn hollbwysig, a oes cyllid ar gael, a fyddai'n ategu prosiect arall?
  7. Pwy yw'r perchennog? (gwerthusiad hyfywedd) / darparu cadarnhad perchnogaeth (gwerthusiad datblygiad)
  8. Beth yw'r rhagolygon ar gyfer caffael rhydd-ddaliad neu lesddaliad hir? (gwerthusiad hyfywedd yn unig)
  9. Os mai chi yw'r perchennog, ers pryd ydych chi wedi bod yn berchen ar yr adeilad a pham nad yw'r angen i newid defnydd wedi'i ddilyn cyn nawr?

Adran 2 - Cyflwr yr adeilad

Gwerthusiad hyfywedd

  1. Crynodeb byr iawn o gyflwr yr adeilad. Gall fod yn ddefnyddiol rhoi brawddeg yn crynhoi'r cyflwr e.e. ‘Mae'r adeilad yn anniogel ac yn cynrychioli perygl gwirioneddol a phresennol i ddiogelwch y cyhoedd’, neu ‘Mae strwythur yr adeilad yn gadarn ond mae angen gwneud gwaith helaeth i fyw ynddo’ ac ati. Dylid rhoi unrhyw wybodaeth bellach mewn atodiad.
  2. Rhestr o unrhyw atgyweiriadau sydd eu hangen ar unwaith i wneud yr adeilad yn ddiogel rhag gwynt a dŵr. Dylai hon fod yn rhestr syml o'r atgyweiriadau sydd eu hangen ar lefel uchaf, nid disgrifiad o bob eitem. Gellir rhoi manylion mewn atodiad.
  3. Costau bras yr atgyweiriadau a amlinellwyd uchod.

Gwerthusiad datblygiad

  1. Asesiad manylach o gyflwr yr adeilad wedi'i ddiweddaru o unrhyw waith arolygu pellach a wnaed yn ystod eich cyfnod datblygu grant.
  2. Nodwch yn fanwl gwmpas y gwaith sydd ei angen i fynd i'r afael ag anghenion atgyweirio a chadwraeth yr adeilad a/neu'r safle. Rhowch ddisgrifiad o unrhyw waith sefydlogi brys a wnaed yn ystod eich cyfnod datblygu.
  3. Costau manwl yr anghenion atgyweirio a chadwraeth a nodir uchod.

Adran 3 - Y sefyllfa a'r cyd-destun cynllunio

Gwerthusiad hyfywedd a gwerthusiad datblygiad

Gall yr adran hon fod yn debyg i ddisgrifiad gwerthwr tai o'r ardal, ond gyda'r nod o berswadio cyllidwyr y gall y prosiect fod yn llwyddiannus. Dylech ddisgrifio pethau fel:

  • Ydy'r adeilad yn ynysig neu ar stryd fawr brysur?
  • A oes mannau parcio gerllaw, gorsaf drenau, neu fynediad at fysiau?
  • Ai amaethyddol, preswyl, manwerthu, swyddfeydd neu ddiwydiannol yw'r ardal yn bennaf?
  • A yw tai neu fusnesau cyfagos yn cael eu meddiannu ac yn cael eu defnyddio?
  • A oes gan yr adeilad broblemau mynediad? A fyddai angen cynllun ffordd newydd?

Darganfyddwch beth yw'r defnydd dynodedig presennol ar gyfer yr adeilad/ardal. A oes cynllun lleol? Dylech hefyd gadw llygad am ddogfennau eraill fel cynlluniau gweithredu ardal, dogfennau cynllun datblygu a dogfennau cynllunio atodol, prif gynlluniau a chynlluniau rheoli ardaloedd cadwraeth. Mae'r rhain ar gael fel arfer yn eich swyddfa gynllunio leol. Nodwch beth mae'r cynlluniau yn ei olygu i'ch prosiect - peidiwch â dyfynnu darnau gair am air. Rhowch y rhain yn yr atodiadau os ydych yn meddwl eu bod yn angenrheidiol.

Gwerthusiad hyfywedd

Beth yw barn y corff treftadaeth priodol (awdurdod cynllunio lleol, Historic England, Cadw, Historic Environment Scotland, Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon, a'r cymdeithasau amwynder lle bo'n berthnasol) ar ddull o atgyweirio a thrawsnewid?

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi, yn dibynnu ar y defnyddiau rydych yn eu cynnig, i siarad â swyddogion y cyngor, cymdeithasau tai lleol, gwerthwyr tai, cwmnïau lleol ac ati.

Gwerthusiad datblygiad

Rhowch amserlen ar gyfer cael unrhyw ganiatad angenrheidiol. Cadarnhewch fod sgyrsiau rhagarweiniol wedi'u cynnal gyda'r cyrff cynllunio/treftadaeth angenrheidiol a bod cefnogaeth gyffredinol i'ch cynigion. Rhowch unrhyw ddogfennaeth berthnasol (e.e. gohebiaeth yn cadarnhau cefnogaeth mewn egwyddor) yn yr atodiadau.

Diweddarwch yn unol ag unrhyw ymgynghoriad pellach a gynhaliwyd gennych yn ystod eich cyfnod datblygu grant.

Adran 4 - Opsiynau ar gyfer defnydd (gan ganolbwyntio ar angen a chynaliadwyedd hirdymor)

Gwerthusiad hyfywedd

Dim ond tri opsiwn ar y mwyaf y dylech chi eu hystyried yn fanwl (peidiwch â chynnwys opsiwn ‘gwneud dim’). Rhestrwch opsiynau eraill os ydych chi wedi eu hystyried ond wedi eu gwrthod am resymau amlwg. Dylai'r adran ar gyfer pob defnydd gynnwys yr elfennau canlynol:

A. Beth yw'r defnydd posibl. Os yw'r defnydd yn rhywbeth fel neuadd gymunedol, nodwch pa fath o weithgareddau fyddai'n digwydd. Os mai preswyl yw'r prif ddefnydd, dywedwch wrthym os bydd yn dai cymdeithasol a/neu'n cael eu harwain gan y gymuned a nifer yr unedau rydych yn eu cynnig.  Nodwch pwy fyddai defnyddwyr terfynol a/neu berchnogion yr adeilad. Rhowch wybod i ni sut y bydd yr adeilad yn cael ei reoli.

B. Disgrifiad byr o'r gwaith neu ymyriadau y byddai'n rhaid eu gwneud i'r adeilad i alluogi'r defnydd.

C. Cost y prosiect: cost fras y gwaith a'r ymyriadau sydd eu hangen

D. Trafodaeth o fanteision ac anfanteision y prosiect; rhaid i'r rhain ddangos tystiolaeth o'r angen am y defnydd a sut y bydd y defnydd yn gynaliadwy yn y tymor hir. Enghreifftiau o'r materion y gallwch roi sylw iddynt:

  • A oes galw yn yr ardal (tystiolaeth o ymchwil marchnad, gwaith ymgysylltu cymunedol, barn arbenigwyr lleol, llythyrau papur newydd, ymgyrchoedd ac ati)?
  • A yw prosiectau tebyg wedi mynd i'r wal yn ddiweddar? Pam? Sut mae'ch un chi yn wahanol?
  • A oes defnyddiau tebyg yn yr ardal yn barod? Os hynny, faint a pha mor bell i ffwrdd? Beth sy'n wahanol am eich prosiect arfaethedig chi?
  • Ydy fflatiau'n gwerthu yn yr ardal, faint yw'r rhent tebyg ar gyfer gofod swyddfa ac ati?

E. Nodwch ganlyniadau ac allbynnau datblygu economaidd yr opsiwn gorau. Amcangyfrif:

  • faint o arwynebedd llawr sydd i ddod yn ôl i ddefnydd a faint o arwynebedd llawr ychwanegol sydd i'w greu (arwynebedd llawr mewnol gros/m2) a pha fath o ddefnydd busnes a ragwelir
  • a yw canlyniadau ac allbynnau datblygu economaidd yn debygol o gael eu hychwanegu, neu o ganlyniad i ddadleoli neu bwysau marw
  • nifer y swyddi CALl a fydd yn cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu, yn y busnesau (gan gynnwys tai) sy'n meddiannu'r datblygiad gorffenedig, ac ar gyfer cynnal a chadw'r adeilad/safle yn hirdymor
  • nifer y gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â threftadaeth yr adeilad/safle.

Gwerthusiad datblygiad

Diweddariad gyda dadansoddiad manwl o'r opsiynau posibl, gan gynnwys ystyriaeth fwy trylwyr o gostau'r prosiect, y cyfle a'r galw am egwyddorion ac allbynnau buddsoddi mewn prosiectau, a gwerth marchnad y datblygiad ar ôl iddo gael ei gwblhau. Dylai'r adran hon nodi'r opsiwn gorau .

Cwblhewch werthusiad o'r effaith economaidd ar ôl siarad â busnesau lleol ac asesu'r effaith y bydd eich prosiect yn ei chael ar y farchnad economaidd leol.

Nodwch sut y bydd yr opsiwn gorau yn cyflawni canlyniadau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gan ganolbwyntio ar y rhai a fydd yn cael eu cyflawni'n gryf.

Adran 5 - cyfrifiad diffyg cadwraeth

Gwerthusiad hyfywedd

Dyma ran bwysicaf eich gwerthusiad gan y bydd y cyfrifiad diffyg cadwraeth yn pennu swm y grant y gallwch wneud cais amdano.

Dilynwch y templed yn yr Arweiniad Cais Menter Treftadaeth (Gwerthusiadau datblygiad) gan nodi'n glir:

Amlinelliad o gostau atgyweirio ac addasu (fel y cyfeirir ato uchod). 
Amcangyfrif rhesymol o werth marchnad yr ased treftadaeth cyn ac ar ôl cwblhau'r prosiect (wedi'i baratoi gan brisiwr cymwys RICS).

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael adeilad neu safle treftadaeth, a'ch bod yn bwriadu cynnwys cost prynu yn eich cais, mae'n bwysig iawn bod y pris caffael yn adlewyrchu gwerth marchnadol y safle treftadaeth ar adeg ei brynu.

Dylai'r adran hon gynnwys digon o wybodaeth i wneud achos argyhoeddiadol dros ddiffyg cadwraeth a'r angen am grant. Er nad oes angen cyfrifiadau cost manwl ar hyn o bryd, mae'n bwysig iawn sicrhau eich bod wedi darparu amcangyfrifon rhesymol. Bydd costau a gwerthoedd yn cael eu mireinio yn eich templed gwerthusiad datblygiad, ond ni ddylai'r cyfrifiad diffyg cadwraeth cyffredinol, ac felly swm y grant y gofynnir amdano gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wahaniaethu'n sylweddol rhwng y ceisiadau cyfnod-datblygu a -chyflawni.

Gwerthusiad datblygiad

Rhowch ddadansoddiad manwl o gostau'r prosiect (wedi'i gyflwyno fel taenlen ar wahân).

Nodwch gostau adeiladu, prisiadau, pris caffael, ffioedd proffesiynol, costau prosiect eraill (e.e. costau cyllid), costau cynnal a chadw adeiladau oes-gyfan ac ati.

Gellir cynnwys elw datblygwr o hyd at 15% o gyfanswm cost cyflawni'r prosiect. Cofiwch gyfiawnhau'r ganran a geisir mewn perthynas â risg cyffredinol y prosiect.

Peidiwch â chynnwys costau gweithgaredd a chostau rheoli a chynnal a chadw uwch ar gyfer y pum mlynedd gyntaf (os gwneir cais amdano fel cost ‘ychwanegol’ fel rhan o'r grant).

Rhowch brisiad marchnad o'r ased treftadaeth cyn ac ar ôl cwblhau'r prosiect, wedi'i gymryd o o leiaf un adroddiad prisio, a baratowyd yn unol â Phrisiad RICS - Safonau Proffesiynol (y “Llyfr Coch”). Rhowch yr adroddiad prisio yn yr atodiadau.

Dylai'r cyfrifiad diffyg cadwraeth ddilyn y dull prisio gweddilliol a nodir yn Atodiad 1 o'r canllawiau cais Menter Treftadaeth. Dylai'r ffigurau fod yn gadarn a dylent wrthsefyll craffu gan werthuswr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Sylwch gallai eich cais cyfnod cyflawni gael ei beryglu os yw swm y grant y gofynnwyd amdano yn sylweddol uwch na'r disgwyl yn eich gwerthusiad hyfywedd a'ch cais cyfnod datblygu (a lle nad oes unrhyw gyfiawnhad rhesymol dros y cynnydd).

Adran 6 – Casgliad

Gwerthusiad hyfywedd

Pa opsiwn sydd well a pham? Er enghraifft, ai'r dewis gorau yw'r gwerth gorau am arian? A yw'n bodloni'r rhan fwyaf o feini prawf darpar gyllidwyr? Sut mae'n gynaliadwy?

Dangoswch ddadansoddiad o gostau, cyllidwyr posibl, sut mae'r prosiect yn bodloni eu meini prawf a symiau ariannu posibl. Dylai elfennau'r prosiect fod yn bethau fel 'datblygiad', 'gwaith strwythurol', 'ffitio'.

Gwerthusiad datblygiad

Darparwch grynodeb byr yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn yr adrannau uchod, gan gasglu pam y bydd yr opsiwn dewisol yn llwyddo yn erbyn canlyniadau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Nodwch ffynonellau cyllid eraill sydd eu hangen i gwblhau'r datblygiad. Rhowch strategaeth codi arian ac amserlen os nad yw holl gyllid y prosiect wedi'i sicrhau.

Adran 7 – Cynllun gweithredu

Gwerthusiad hyfywedd

Unrhyw gamau sydd eu hangen ar unwaith i ddiogelu'r adeilad, fel codi sgaffaldiau, clirio cwteri, darparu atgyweiriadau dros dro i'r to.

Eich strategaeth ar gyfer parhau â'r defnydd gorau. Sut ydych chi'n mynd i ddatblygu'r prosiect? Er enghraifft, i ba gyllidwyr ydych chi'n mynd i wneud cais a phryd?

Eich strategaeth os yw'r defnydd gorau yn profi'n anhyfyw. A oes llwybr arall os bydd y cynllun gorau yn amhosib i'w gyflawni?

Gwerthusiad datblygiad

Diweddarwch hwn yn ôl yr angen. Cyfeiriwch at gynllun busnes eich prosiect (os ydych yn gwneud cais am grant o fwy na £2m) neu at amserlen a llif arian eich prosiect (os yn llai na £2m). Cyfeiriwch at eich dadansoddiad risg prosiect manwl, a gyflwynwyd fel rhan o'ch cais yn y cyfnod cyflawni.

Adran 8 – Atodiadau

Gwerthusiad hyfywedd

Dylai fod gan yr adran hon:

  • restr o'r holl bobl yr ymgynghorwyd â nhw gyda manylion cyswllt lle bo'n berthnasol
  • gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r prosiect sy'n dangos achos ymhellach dros y diffyg cadwraeth, yr angen am y grant a hyfywedd dilynol y prosiect
  • unrhyw wybodaeth atodol arall y cyfeirir ati uchod

Gwerthusiad datblygiad

Rhowch yr holl ddogfennaeth y cyfeirir ati yn yr adrannau uchod.

Cynghorion ar recriwtio prisiwr datblygiad

Cymwysterau hanfodol

Mae hon yn rôl ymdrechgar ar gyfer uwch weithiwr proffesiynol sydd â'r profiad a'r hyder i asesu prosiectau cymhleth, proffil uchel - a allai fod yn fentrus.

Yn ddelfrydol, dylai priswyr datblygiad fod wedi eu cofrestru gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a bod â phrofiad o gynnal gwerthusiadau datblygiad ar brosiectau tebyg. Efallai y bydd gan eich partner datblygu staff â sgiliau a galluoedd perthnasol.

Sgiliau a gallu

  • Ystod o ddulliau gweithredu – Bydd angen i briswyr ddefnyddio ystod o fethodolegau gwerthuso sy'n asesu ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, a ffactorau ariannol ac eraill.
  • Profiad ymarferol – Dylent ddeall y cyd-destun adfywio neu ailddatblygu y mae prosiectau'n cael eu hyrwyddo ynddo a nodau Menter Treftadaeth. Dylent fod wedi gweithio ar brosiectau tebyg yn y gorffennol.
  • Rheoli rhanddeiliaid – Dylai priswyr datblygiad ddeall strwythur ac anghenion sefydliadau cymunedol (fel ymgeiswyr unigol neu bartneriaid), pob partneriaeth prosiect (fel sefydliadau masnachol), ac unrhyw rhanddeiliaid eraill.
  • Creadigrwydd – Mae Menter Treftadaeth yn ceisio dod â phartneriaid cymunedol a masnachol ynghyd i ddatgloi'r creadigrwydd sy'n bodoli yn y ddau sector. Rhaid i briswyr datblygiad allu cyfrannu'n rhagweithiol at y broses hon.
  • Cyfathrebu – Eich prisiwr fydd un o'r prif gysylltiadau cyfathrebu rhwng yr ymgeisydd am grant a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ble gallwn ni ddod o hyd i briswyr datblygiad?

Mae Locality - y rhwydwaith ar gyfer sefydliadau a arweinir gan y gymuned - yn cefnogi rhaglen frocera i ddod â gweithwyr eiddo proffesiynol a mentrau cymunedol ynghyd.

Efallai y bydd gan eich awdurdod lleol restr o gwmnïau sydd â'r sgiliau perthnasol i wneud prisiadau a/neu werthusiadau datblygiad: www.gov.uk/find-your-local-council  

Ar gyfer Priswyr Cofrestredig RICS, defnyddiwch wasanaeth chwilio ar-lein RICS ‘find a surveyor’ i ddod o hyd i syrfëwr: www.ricsfirms.com.

Bydd chwilio ar y we yn eich helpu i ddod o hyd i gwmnïau neu ddatblygwyr proffesiynol lleol y gallech gysylltu â nhw, gan ddefnyddio'r ddogfen hon i sicrhau eu bod yn gwybod beth rydych chi'n chwilio amdano.

Sut i recriwtio prisiwr datblygiad

  • Tendrwch yn eang - Ceisiwch o leiaf 3 dyfynbris cystadleuol gan wahanol sefydliadau.
  • Cyfwelwch - Ceisiwch gwrdd ag a dod i adnabod y person a fydd yn gweithio gyda chi o ddydd i ddydd.
  • Aseswch a barnwch - Mae'n hanfodol bod gennych hyder ynddynt, ar lefel bersonol a phroffesiynol.
  • Penodwch - Dewiswch yr ymgeisydd rydych chi o'r farn ei fod yn deall y prosiect orau, yn parchu ei amcanion a'i ddyheadau ac y gallwch chi weithio gydag ef neu hi.

Cwestiynau i'w gofyn i ddarpar brisiwr datblygiad

Profiad a chymwysterau

Ydyn nhw wedi cofrestru gyda RICS? Faint o flynyddoedd o brofiad sydd ganddyn nhw fel prisiwr neu ddatblygwr cymwysedig? Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn disgwyl o leiaf pum mlynedd o brofiad.

Pa fathau o adeiladau maen nhw wedi gweithio arnynt? Ydyn nhw wedi gweithio ar brosiectau eraill sydd â gwerth/cyllideb sy'n debyg i'ch un chi? Ydyn nhw'n gweithio yn unigol, neu fel rhan o dîm?

Gwybodaeth dechnegol

A oes ganddynt brofiad personol uniongyrchol o...

  • werth tir gweddilliol
  • gyfrifiadau gorswm
  • cyllid bwlch
  • adfachu
  • gwerthusiad effaith economaidd
  • cost oesgyfan
  • datrysiadau brocera

Adfywio a thwf economaidd

A oes gan y prisiwr gefndir mewn datblygu, cynllunio neu ‘greu lleoedd’? Sut y byddant yn mesur allbwn a thwf economaidd? Pa brofiad sydd ganddynt o brosiectau sy'n ceisio newid ac adfywio cymunedau lleol?

Asesu sefydliadau a phartneriaethau

Sut y byddant yn cefnogi'r prosiect? A allant gymryd golwg gytbwys o'r prosiect a gwneud argymhellion clir ar gyfer gwelliant a llwyddiant? A allant eich helpu i lwyddo? Sut?

Ymwybyddiaeth a barn

A oes gan yr ymgeisydd ‘wybodaeth am ddatblygiad’ (cyfraddau dydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol, costau deunydd, amserlenni cywir, ac ati)? Beth fyddan nhw'n ei gyfrannu at y prosiect? A fyddant yn deg wrth ymwneud â chi a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol? A oes ganddynt y profiad a'r gallu i'ch cynghori ynghylch yr hyn sy'n realistig, yn gywir ac yn gyraeddadwy?