Buddsoddi mewn treftadaeth anabledd

Buddsoddi mewn treftadaeth anabledd

Yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, credwn y dylai pawb allu elwa o'n cyllid.

Mae pobl anabl yn cael eu tangynrychioli ym mhob rhan o'r sector treftadaeth, gan gynnwys pobl sy'n dysgu anabl, pobl ag anableddau corfforol neu synhwyraidd neu'r rhai sy'n byw gyda dementia neu sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.

Dyna pam yr ydym yn ei gwneud yn orfodol bod yr holl brosiectau rydym yn eu hariannu yn sicrhau bod ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth.

Mae pobl anabl yn llawer mwy tebygol o gael eu heithrio yn ddigidol, wynebu rhwystrau rhag cyfathrebu, ac maent yn teimlo wedi'u hynysu'n fwy cymdeithasol. Hyd yn oed cyn pandemig coronafeirws (COVID-19), roedd pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl a llesiant gwael. 

Rydym yn gwybod bod hyn yn rhywbeth y gall prosiectau treftadaeth helpu i fynd i'r afael ag ef.

Ewan Bachell, rheolwr prosiect Cronfa Treftadaeth

Dyma rai o'r prosiectau ysbrydoledig sy'n cael eu rhedeg gan bobl anabl neu sy'n ymchwilio i hanes anabledd yn y DU. Os oes gennych syniad, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.