Cynllun gweithgareddau – canllaw arfer da

Cynllun gweithgareddau – canllaw arfer da

Mae cynllun gweithgareddau'n nodi popeth y byddwch yn ei wneud fel rhan o'ch prosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol i ennyn diddordeb, tyfu ac arallgyfeirio'r gynulleidfa ar gyfer eich treftadaeth.

Trwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn dysgu sut i greu cynllun gweithgareddau mewn tri cham, y ffactorau llwyddiant dan sylw ac awgrymiadau ar gyfer cynllunio llwyddiannus. Mae hefyd yn cynnwys dolen i dempled o gynllun gweithredu yn Excel.

Bydd cynllun gweithgareddau'n eich helpu i ddeall:

  • ble mae eich sefydliad nawr (gosod meincnodau)
  • ble rydych am gyrraedd (gosod eich uchelgeisiau)
  • beth fyddwch chi'n ei wneud i gyflawni'r uchelgeisiau hynny (y camau penodol y byddwch yn eu cymryd i gyflwyno'r cynllun gweithgareddau cyffredinol, gan ddefnyddio templed y cynllun gweithredu i ychwanegu manylion ymarferol ar bethau fel costau ac amseriadau)

Pwy sydd angen cynllun gweithgareddau?

Os ydych yn gwneud cais am grant o lai na £250,000, bydd angen i chi greu cynllun prosiect yn hytrach na chynllun gweithgareddau.

Os ydych yn gwneud cais am grant o fwy na £250,000, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y byddwch yn costio ac yn creu'r cynllun gweithgareddau yn eich cais rownd ddatblygu, gan gynnwys yr hyn yr ydych am ei gyflawni ac ar gyfer pwy.

Os yw eich cais yn cynnwys nifer o brosiectau a gyflwynir ar draws ardal i gynhyrchu effaith gronnus, dylech greu cynllun gweithredu ardal yn lle cynlluniau gweithgareddau ar wahân.

Ar ôl dyfarniad rownd ddatblygu bydd disgwyl i chi gynhyrchu cynllun gweithgareddau a'i gyflwyno fel rhan o'ch cais rownd gyflwyno. Dyma pryd y cewch gyfle i gadarnhau eich cynlluniau. Bydd angen i chi benderfynu pa grwpiau penodol o bobl yr ydych eisiau eu cyrraedd gyda'ch ariannu a sut y bydd hyn yn cyfrannu at yr egwyddorion buddsoddi yn ein strategaeth Treftadaeth 2033. Wedyn, disgrifiwch yr holl weithgareddau – yn fanwl ac wedi’u costio’n gywir – y byddwch yn eu gwneud i ddiwallu eu hanghenion.

Byddwn yn disgwyl i chi gasglu data ar y bobl yr ydych yn eu cyrraedd ac, fel rhan o werthusiad eich prosiect, dangos tystiolaeth o'ch llwyddiant wrth gyflwyno'r cynllun gweithgareddau.

Beth yw cynllun gweithgareddau a beth nad yw

Dylai eich cynllun gweithgareddau fod yn benodol i'r prosiect treftadaeth yr ydych yn gofyn i ni ei ariannu. Dydy e ddim yr un peth â'ch cynlluniau ar gyfer gwaith bob dydd neu gynllun datblygu cyffredinol ar gyfer gweithgarwch eich sefydliad.

Dylai lefel y gweithgareddau, a’r amser y mae’n ei gymryd i gynllunio, fod yn gymesur â maint ac uchelgais eich prosiect a’r ariannu yr ydych yn gofyn amdano. Mae'r broses ddatblygu fel arfer yn cymryd misoedd nid wythnosau.

Nid yw cynllun gweithgareddau'n cynnwys:

  • Dehongli ar raddfa fawr sy'n cynnwys costau cyfalaf sylweddol. (Os yw eich prosiect yn cynnwys creu oriel newydd, er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gael arddangosfa neu gynllun dehongli ar wahân, ond cofiwch sicrhau eich bod yn croesgyfeirio’r wybodaeth berthnasol yn eich cynllun gweithgareddau.)
  • Gwaith cynllunio cysylltiedig arall o'ch cam datblygu. (Er enghraifft, mae archwiliad mynediad yn rhan hanfodol o gynllunio gwaith cyfalaf ar adeilad neu safle. Fodd bynnag, gallai'r wybodaeth o'r cynllunio ychwanegol hwn helpu llywio eich cynllun gweithgareddau.)

Creu eich cynllun gweithgareddau

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio proses tri cham a fydd yn eich helpu i greu cynllun gweithgareddau:

  • Cam 1: Ble rydych chi nawr – meincnodi
  • Cam 2: Ble rydych am gyrraedd – uchelgeisiau
  • Cam 3: Sut y byddwch yn cyrraedd yno - gan gynnwys gweithgareddau a'ch cynllun gweithredu manwl (lawrlwythwch y templed cynllun gweithredu o'r dudalen hon, uchod)

Cam 1: Ble rydych chi nawr

Mae'r cam hwn yn ymwneud ag edrych ar eich sefyllfa bresennol. Bydd yn eich helpu i feddwl pam eich bod am ennyn diddordeb pobl newydd yn eich treftadaeth.  Bydd angen i chi ystyried:

  • Eich sefydliad: pwy sydd angen bod yn rhan o gynllunio eich gweithgareddau ac a oes angen i chi wneud newidiadau sefydliadol er mwyn iddo ddigwydd?
  • Eich cynulleidfaoedd: pwy sy'n gwirfoddoli, yn ymweld neu'n cymryd rhan ar hyn o bryd a phwy yw'r bobl nad ydynt yn ymwneud â'ch sefydliad a'ch treftadaeth ar hyn o bryd?
  • Eich gweithgareddau presennol: sut mae pobl yn rhyngweithio â'ch treftadaeth nawr a sut mae hynny'n cymharu â sefydliadau eraill?

Mae camau gweithredu a awgrymir yn ystod Cam 1 yn cynnwys adolygu eich polisïau ac arferion a'ch data cyfredol a deall pwy sy'n absennol (gweler isod). Gallwch wedyn ddechrau'r drafft cyntaf o'ch cynllun gweithgareddau.

Polisïau ac arferion

  • Adolygwch strategaethau a chynlluniau, er enghraifft, eich datganiad cenhadaeth a'ch cynllun corfforaethol.
  • Adolygwch eich polisïau, er enghraifft, addysg, dehongli, gwirfoddoli, hyfforddiant, diogelu.
  • Datblygwch bolisïau a chytunwch arnynt os nad oes gennych chi rai. Fe ddewch o hyd i lawer o enghreifftiau ar-lein.
  • Siaradwch â staff, ymddiriedolwyr neu aelodau llywodraethu, gwirfoddolwyr, partneriaid allweddol a rhanddeiliaid i gynyddu dealltwriaeth o'r materion a pherchnogaeth ar y prosiect.
  • Adolygwch gapasiti eich sefydliad ac ystyriwch lle y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnoch neu wneud newidiadau i drefniadau rheoli.
  • Adolygwch sgiliau pobl i wneud gwaith cynllunio ac ystyriwch ddarparu hyfforddiant a datblygiad penodol i wella sgiliau tîm. Neilltuwch gyllideb ar gyfer datblygiad proffesiynol staff, gwirfoddolwyr a llywodraethwyr fel rhan o’r prosiect. Gallech gyflwyno rhywfaint o hyfforddiant yn ystod eich cam datblygu os byddwch yn ei gostio.
  • Siaradwch â sefydliadau eraill sydd wedi gwneud prosiectau tebyg ac ewch i ymweld â nhw.
  • Ddysgwch o brosiectau newid sefydliadol blaenorol, er enghraifft, ein hamgueddfa (mae'r egwyddorion yn ddefnyddiol i fathau eraill o sefydliadau).
  • Dysgwch am ac ymunwch â rhwydweithiau proffesiynol, grwpiau a sefydliadau sy’n cynnig hyfforddiant, er enghraifft, GEM (Group for Education in Museums and other heritage), Engage, Visitor Studies Group, BGEN (Botanic Garden Education Network), Grŵp Outdoors for All Natural England, Oral History Society, Association of Heritage Interpretation, Museums and Participation Network, Museums Association, etc.

Eich data presennol

  • Adolygwch eich gwybodaeth defnyddwyr presennol, er enghraifft, data ymwelwyr mewnol neu ddeunydd sydd gennych gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn eich gweithgareddau (gwerthusiadau, llyfrau sylwadau, llythyrau).
  • Casglwch ddata newydd ar eich proffil defnyddwyr presennol os oes angen. Ystyriwch ymchwil benodol megis arolygon, grwpiau ffocws, siarad ag ymwelwyr. Efallai y byddwch yn gofyn i ymgynghorydd datblygu cynulleidfaoedd wneud y gwaith neu eich hyfforddi i’w wneud – gallech gynllunio i wneud hyn yn gynnar yn eich cam datblygu.
  • Edrychwch ar ddata lleol fel demograffeg gymunedol. A yw proffil eich defnyddwyr yn wahanol ac, os felly, pam?
  • Edrychwch ar ymchwil treftadaeth genedlaethol neu gyffredinol i bobl a threftadaeth. Ceir rhai cyfeiriadau yn ein harweiniad arfer da cynhwysiad neu gallwch ddefnyddio ffynonellau data a gedwir gan sefydliadau twristiaeth neu sefydliadau diwylliannol lleol.
  • Os oes gan eich sefydliad gynllun rheoli cadwraeth, gwiriwch a yw'n dweud wrthych pam fod eich treftadaeth yn bwysig ac i bwy y mae'n bwysig.
  • Adolygwch natur eich treftadaeth a'i chysylltiadau posibl â chynulleidfaoedd penodol megis cymunedau buddiant lleol, pobl anabl neu bobl ifanc.

Deall pwy sy'n absennol

  • Adolygwch y deunydd sydd gennych am sut mae darpar gynulleidfaoedd yn eich gweld chi a'r hyn rydych yn ei wneud. Efallai y byddwch am logi rhywun i wneud arolygon penodol o'r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr.
  • Meddyliwch am y bylchau yn yr hyn rydych chi'n ei wybod am y bobl yma (yn enwedig y cymhellion y gallai fod ganddynt i ymgysylltu â'ch treftadaeth yn y dyfodol).
  • Meddyliwch am y rhwystrau y mae rhai cynulleidfaoedd fel arfer yn eu hwynebu wrth ymgysylltu â threftadaeth, er enghraifft, corfforol a synhwyraidd, diwylliannol, sefydliadol neu ddeallusol.
  • Edrychwch ar yr hyn y mae eraill yn ei wneud i ddenu pobl newydd i'w sefydliadau gan ddefnyddio gweithgareddau wedi'u targedu a dysgwch o hynny.

I'ch helpu i ddeall yn fwy manwl pwy sy'n absennol, gweler ein harweiniad arfer da cynhwysiad.

Gallwch ddechrau drafftio eich cynllun gweithgareddau. Dylai'r drafft cyntaf:

  • grynhoi ymrwymiad eich sefydliad i ennyn diddordeb y cyhoedd a'r berthynas rhwng treftadaeth a phobl
  • disgrifio unrhyw newidiadau rydych wedi'u gwneud ers eich cais rownd ddatblygu
  • disgrifio unrhyw newidiadau pellach y byddwch yn eu gwneud yn ystod eich prosiect
  • disgrifio sut rydych yn creu eich cynllun gweithgareddau, gan gynnwys:
    • pwy sydd wedi bod yn rhan o'i ddrafftio
    • sydd wedi bod yn rhan o'ch helpu i ddatblygu eich syniadau am yr hyn y gallwch ei wneud i ennyn diddordeb pobl
    • yr hyn rydych wedi'i ddysgu gan eraill
  • crynhoi'r hyn rydych chi'n ei wybod am y cynulleidfaoedd ar gyfer eich treftadaeth nawr
  • disgrifio’r cynulleidfaoedd posibl ar gyfer eich treftadaeth ac unrhyw rwystrau y gallai eich sefydliad eu hwynebu wrth ymgysylltu â phobl, er enghraifft, rhwystrau i fynediad ar eich safle, diffyg gweithgareddau sy’n addas i blant, costau, oriau agor, diffyg arbenigedd yn eich sefydliad
  • disgrifio'r hyn rydych chi'n ei gynnig i'ch cynulleidfaoedd ar hyn o bryd
  • disgrifio sut rydych chi'n cyflwyno'r hyn rydych chi'n ei gynnig a sut mae darpar gynulleidfaoedd yn ei werthfawrogi
  • disgrifio'r hyn y gallech fod yn ei wneud yn seiliedig ar arfer da mewn sefydliadau eraill
  • rhoi crynodeb a chanfyddiadau llawn pob darn o ymchwil neu ymgynghoriad a grëwyd yn y cam datblygu mewn atodiad, ynghyd ag unrhyw bolisïau newydd eu creu sy’n ymwneud ag ennyn diddordeb pobl

Ffactorau llwyddiant ar gyfer Cam 1

Ar ddiwedd Cam 1 dylech fedru:

  • dangos eich bod yn gwybod pa drefniadau sefydliadol sydd eu hangen i gyflwyno eich dyheadau
  • dangos beth mae eraill wedi ei wneud a sut y byddwch yn adeiladu ar arfer da
  • rhestru pwy all eich helpu (partneriaid, gwirfoddolwyr, cefnogaeth gan gymheiriaid)
  • disgrifio'r hyn yr ydych yn ei wneud nawr a sut mae pobl eisoes yn ymgysylltu â'ch treftadaeth (gan gynnwys pa fathau o grwpiau a'u niferoedd)
  • dangos sut mae pobl yn teimlo am yr hyn rydych yn ei wneud - pa mor hysbys ydyw, i ba raddau y caiff ei werthfawrogi, faint o ymgysylltiad sydd gan bobl ag ef
  • nodi pwy y gellid ennyn eu diddordeb yn eich treftadaeth drwy eich prosiect

Ar ôl cwblhau Cam 1, dylech hefyd fod yn dechrau:

  • rhestru’r hyn y gallai fod angen i chi ei newid yn eich sefydliad (byddwch yn adeiladu ar y rhestr hon wrth i chi fynd drwy’r camau cynllunio)
  • meddwl a dangos pam fod angen eich prosiect, o ran yr hyn y gall ei gynnig i bobl a chymunedau
  • datblygu syniadau am yr hyn y gallech ei wneud yn y dyfodol (bydd y syniadau hyn yn rhoi opsiynau i chi ar gyfer y cam nesaf)

Cam 2: Ble rydych am gyrraedd

Mae Cam 2 yn ymwneud â dwyn â'r holl wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu ynghyd, penderfynu beth mae'r cyfan yn ei olygu i'ch prosiect a gwneud penderfyniadau gwybodus am sut rydych chi am ennyn diddordeb eich cynulleidfaoedd, eu tyfu ac amrywio'ch cynulleidfa a sut olwg fydd ar hynny ar ôl i chi orffen. Byddwch yn symud ymlaen i gynllunio’r gweithgareddau’n fanwl ac esbonio sut y byddwch yn cyflwyno ein hegwyddorion buddsoddi yng Ngham 3.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â mwy na gweithgareddau'n unig, dyma foment bwysig hefyd i hysbysu'r bobl eraill sy'n ymwneud â datblygu'r prosiect cyfan am y penderfyniadau rydych yn eu gwneud.

Rhowch ddigon o amser ar gyfer Cam 2. Bydd angen i chi ystyried:

  • Eich prosiect: beth mae'n ceisio ei gyflawni?
  • Eich cynulleidfaoedd: i bwy y mae eich prosiect? Pwy ydych eisiau eu targedu gyda'ch gweithgareddau a pham?
  • Eich gweithgareddau: pa weithgareddau sy'n realistig ac yn briodol ar gyfer y bobl rydych am eu cyrraedd? Sut fydd y gweithgareddau'n cysylltu â'n hegwyddorion buddsoddi?
  • Eich staff: pwy fydd yn arwain y gwahanol weithgareddau? A oes ganddynt yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen?
  • Mesur llwyddiant: sut ydych chi'n mesur llwyddiant y gweithgareddau hyn? sut fyddwch chi'n gwerthuso eich cynllun gweithgareddau? Faint y bydd hyn yn ei gostio?
  • Buddion tymor hwy: Sut fyddwch chi'n cynnal y buddion ar ôl y prosiect? Sut fydd eich sefydliad yn newid ac yn datblygu ar gyfer y dyfodol? Sut fyddwch chi'n rhannu gwersi gydag eraill?
  • Costau: beth yw cost y gweithgareddau? A yw cyfanswm y costau yn gymesur â chost y prosiect yn gyffredinol?

Dylai ail ddrafft eich cynllun gweithgareddau ddisgrifio eich uchelgeisiau. Dylai:

  • rhoi trosolwg o’r mathau o weithgareddau rydych am eu cyflwyno (manylion i ddod yng Ngham 3)
  • nodi sut mae'r prosiect yn cydweddu â'r polisïau priodol a diben cyffredinol eich sefydliad a dangos ymrwymiad eich sefydliad i roi'r cynllun gweithgareddau ar waith
  • crynhoi'r dewisiadau rydych wedi'u gwneud a dweud wrthym pam fod y cynulleidfaoedd hyn yn bwysig i'ch sefydliad
  • rhoi disgrifiad cryno a realistig o’r hyn y bydd eich prosiect yn ei wneud i ennyn diddordeb pobl yn y dreftadaeth a gwneud cysylltiadau ag unrhyw gynlluniau arddangos neu ddehongli ar raddfa fawr
  • nodi cynlluniau ar gyfer sut y byddwch yn ymdrin ag unrhyw anawsterau posibl wrth ennyn diddordeb pobl
  • darparu siart strwythur ar gyfer rheoli'r gweithgareddau yn eich prosiect
  • creu disgrifiadau swydd (gyda chyflogau cystadleuol o safon y diwydiant) ar gyfer staff, prentisiaid ac interniaid, disgrifiadau rôl ar gyfer gwirfoddolwyr a briffiau ar gyfer unrhyw weithwyr llawrydd neu ymgynghorwyr
  • ystyried a yw eich costau arfaethedig yn realistig (byddwch yn ailedrych ar hyn pan fyddwch yn cyfrifo costau manwl yng Ngham 3)
  • crynhoi eich cynlluniau cyffredinol i werthuso eich mesurau llwyddiant ar gyfer ymgysylltu â phobl
  • disgrifio sut y byddwch yn rhannu gwersi eich prosiect
  • disgrifio beth fydd yn digwydd ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau (manteision hirdymor) a sut y gallai eich gwaith gyda chynulleidfaoedd, y buddiannau rydych yn eu cynhyrchu a’r deunyddiau rydych yn eu defnyddio helpu i gynnal buddion eich prosiect
  • disgrifio sut y bydd eich sefydliad yn wahanol ar ôl y prosiect a sut y byddwch yn parhau i ddatblygu eich gwaith gyda chymunedau i sicrhau bod eich sefydliad yn gynaliadwy
  • Rhoi crynodeb o'r gyllideb ar gyfer gweithgareddau (a ddylai fod yr un peth â'r hyn a roddwch yn y ffurflen gais rownd gyflwyno). Bydd y gyllideb fanwl ar gyfer gweithgareddau yn eich cynllun gweithredu, sydd i'w gwblhau fel rhan o Gam 3.

Ffactorau llwyddiant ar gyfer Cam 2

Ar ôl cwblhau Cam 2 dylech fedru dangos:

  • pam mai’r prosiect hwn sydd orau i’ch sefyllfa chi (eich sefydliad, eich treftadaeth a’ch lle, a’r bobl rydych wedi penderfynu eu targedu)
  • bod eich cynlluniau'n diwallu anghenion y bobl yr ydych yn bwriadu eu cyrraedd
  • pa bethau eraill rydych wedi'u hystyried a pham nad ydynt yn iawn ar gyfer y prosiect hwn

Ar ôl cwblhau Cam 2 dylech hefyd fod yn dechrau meddwl am:

  • amcanion
  • sut maent yn gweddu i egwyddorion buddsoddi’r Gronfa Treftadaeth, targedau (targedau cynulleidfa a thargedau ar gyfer allbynnau fel nifer y taflenni, gweithdai, recordiadau hanes llafar, ac ati), adnoddau, cyllideb, amserlen a mesurau llwyddiant

Efallai y bydd angen i chi aros hyd nes i chi ddrafftio’r cynllun gweithredu i gwblhau’r adran hon, gan gynnwys eich dulliau o werthuso gweithgareddau unigol.

Cam 3: Sut i gyflawni eich uchelgeisiau, gan gynnwys cynllun gweithredu manwl

Mae'r cam hwn yn ymwneud â'r hyn y byddwch yn ei wneud mewn gwirionedd i ennyn diddordeb pobl a chymunedau yn nhreftadaeth eich prosiect. Dyma'r cam hollbwysig o weithio allan a chyflwyno sut y byddwch yn darparu'ch gweithgareddau.

Mae'r cam hwn yn dechrau gyda'r camau gweithredu sydd i'w hystyried.

Trafod a myfyrio

  • Defnyddiwch yr holl wybodaeth rydych wedi'i chasglu hyd yma.
  • Adolygwch weithgareddau llwyddiannus (eich rhai chi a rhai sefydliadau eraill).
  • Ymgynghorwch â phobl i greu syniadau newydd. Gallech gynnwys eich cynulleidfa darged wrth ddylunio gweithgareddau a fydd yn diwallu eu hanghenion a’u diddordebau – mae hyn yn aml yn cael ei alw'n greu ar y cyd.
  • Siaradwch â'r bobl eraill sy'n cynllunio eich prosiect treftadaeth i sicrhau eich bod wedi manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd. Er enghraifft, a ydych wedi datblygu gweithgareddau sy'n helpu'r cyhoedd i ddysgu am unrhyw waith cadwraeth neu ddarparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddeion newydd? A allech gynnwys gweithgareddau sy'n gysylltiedig â recriwtio a hyfforddi aelodau llywodraethu newydd?

Meddyliwch yn fanwl am y materion ymarferol

  • Drafftiwch gynllun prosiect bach ar gyfer pob math o weithgaredd i sicrhau eich bod wedi meddwl am bopeth er mwyn iddo weithio.
  • Ar gyfer gweithgareddau mawr, er enghraifft, rhaglen o weithdai neu arddangosfa, ysgrifennwch friffiau ar gyfer cyflenwyr allanol, dewch o hyd i ddyfynbrisiau, penderfynwch ar werth am arian.
  • Rhestrwch y cyfleusterau, yr offer a'r adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer pob gweithgaredd.
  • Rhestrwch y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gyflwyno pob gweithgaredd.
  • Adolygwch sgiliau staff a gwirfoddolwyr presennol ac ystyriwch hyfforddiant er mwyn i bobl gyflwyno gweithgareddau. Gallech gynnwys yr hyfforddiant hwn yn eich cynllun gweithredu fel un o weithgareddau eich prosiect.
  • Ymchwiliwch i bartneriaethau gyda sefydliadau eraill i ddod ag adnoddau, sgiliau ac arbenigedd i mewn.
  • Ystyriwch yr angen am staff, gwirfoddolwyr, a gweithwyr llawrydd newydd. Ysgrifennwch swydd ddisgrifiadau.

Gwaith ar y gyllideb

  • Cyfrifwch gostau uniongyrchol offer, deunyddiau, staff llawrydd, teithio, ac ati.
  • Cyfrifwch gyfraniadau mewn nwyddau, er enghraifft, amser gwirfoddolwyr neu gyfraniadau eraill at eich gweithgareddau.
  • Adolygwch y gyllideb gyffredinol ar gyfer costau uniongyrchol a chyfraniadau mewn nwyddau a grëwyd o dan Gam 2 a newidiwch hi fel y bo angen i sicrhau eu bod yn realistig ac yn cynnig gwerth am arian.

Meddyliwch am werthuso

  • Adolygwch y gwahanol ddulliau gwerthuso sydd ar gael i chi, er enghraifft, arolygon, arsylwi, llyfrau sylwadau, a phenderfynwch ba un sy'n briodol ar gyfer pob gweithgaredd.
  • Pennwch dargedau ar gyfer pob gweithgaredd ac ar gyfer pob cynulleidfa, er enghraifft, targedau rhifiadol ar gyfer cynnydd mewn ymweliadau gan gynulleidfa darged, a thargedau ansoddol, er enghraifft, boddhad ymwelwyr.
  • Ystyriwch yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â gwerthuso, er enghraifft, pobl, arian, amser.

Trafodwch a myfyriwch eto

  • Rhannwch eich syniadau a'ch amserlen ddrafft gydag eraill sy'n ymwneud â'r prosiect, yn enwedig y Rheolwr Prosiect cyffredinol.

Cwblhau'r templed cynllun gweithredu   

Wrth i chi fynd trwy Gam 3, mae angen i chi drosglwyddo'r wybodaeth fanwl am y gweithgareddau rydych wedi'u cynllunio i'n templed cynllun gweithredu.

I gefnogi nodau eich prosiect dylech lenwi’r templed o dan y penawdau colofn canlynol:

  • gweithgaredd: disgrifiad manwl
  • cynulleidfa darged ar gyfer y gweithgaredd
  • canlyniad: beth fydd y newid
  • adnoddau
  • costau yng nghyllideb y prosiect (wedi'u heitemeiddio a'r cyfanswm costau)
  • amserlen
  • targedau a mesurau llwyddiant (dylech ddangos tystiolaeth o'ch cyflawniad yn erbyn y targedau hyn yn eich adroddiad gwerthuso)
  • dull(iau) gwerthuso

Dylech ailedrych ar Gam 2 o'r broses i wirio bod yr uchelgeisiau y gwnaethoch eu pennu'n gywir o hyd. Os ydynt, dylech nawr fedru defnyddio'r holl wybodaeth a fanylwyd yng Ngham 2 i gwblhau'r cynllun. Lle bo'n berthnasol, peidiwch ag anghofio crynhoi'r wybodaeth o'ch cynllun gweithgareddau yn eich cais rownd gyflwyno.

Ffactorau llwyddiant ar gyfer Cam 3

Medru dangos:

  • cynllun gweithredu sy'n manylu ar sut y byddwch yn ennyn diddordeb pobl yn eich treftadaeth
  • y byddwch yn cyfrannu at ein hegwyddorion buddsoddi yn gymesur â maint y grant yr ydych yn gofyn amdano
  • sut y byddwch chi'n cyflawni'r canlyniadau hyn trwy weithgareddau
  • cynllun gweithgareddau yn barod i'w atodi i'ch cais rownd gyflwyno

Awgrymiadau ar gyfer cynllunio llwyddiannus

Gwnewch e am y rhesymau cywir

Defnyddiwch y broses fel arf cynllunio cadarnhaol. Cynhyrchwch y cynllun i helpu datblygu a chynnal eich sefydliad.

Cynnwys pobl

Defnyddiwch y broses i ddwyn ynghyd y bobl a fydd yn hanfodol i lwyddiant eich prosiect. Gwnewch yn siŵr bod y ddogfen yn galw ar safbwyntiau amrywiol. Os nad yw'r bobl iawn yn cymryd rhan, gallai hyn arwain at oedi a chostau ychwanegol. Os yn briodol, dylech gynnwys unrhyw bartneriaid wrth lunio'r cynllun gweithgareddau a sicrhau eich bod yn ystyried eu barn.

Cael cymorth arbenigol

Efallai y bydd angen arbenigwr arnoch i'ch helpu i baratoi eich cynllun, gwneud ymchwil cynulleidfaoedd a sicrhau bod gennych chi a'ch tîm y sgiliau i'w roi ar waith, yn enwedig os nad oes gennych brofiad o ennyn diddordeb y cyhoedd. Gall y cyngor cywir arbed amser ac arian i chi yn y tymor hir.

Gweithio gydag ymgynghorwyr

Os byddwch yn gofyn i ymgynghorwyr helpu i baratoi cynllun, gwnewch yn siŵr eich bod yn gweithio'n agos gyda nhw ac yn neilltuo digon o amser i'r broses. Cofiwch sicrhau eu bod yn defnyddio gwybodaeth eich staff a'ch gwirfoddolwyr ac yn cynhyrchu dogfen sy'n wirioneddol yn eich helpu.

Rheoli'r cynllun

Byddwch yn barod i gymryd rôl weithredol wrth reoli'r broses gynllunio. Gwnewch yn siŵr bod y cynllun rydych chi'n ei baratoi neu'n ei gomisiynu'n eich helpu i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion ac yn helpu i gyflawni ein hegwyddorion buddsoddi. Rheolwch y broses o’r drafodaeth gyntaf ar y syniad hyd at y broses gomisiynu i sicrhau bod pobl yn defnyddio’r cynllun yn y tymor hir.

Cyfryngu

Defnyddiwch y cynllun i gyfryngu rhwng gwahanol syniadau am dreftadaeth. Er enghraifft, efallai y bydd gan arbenigwyr adeiladu ac arbenigwyr dysgu syniadau gwahanol am sut i reoli eich safle a'i agor i fyny. Mae'n bwysig bod pawb yn eich sefydliad yn hapus gyda'r cynllun gweithgareddau.