Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ei newydd wedd!

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ei newydd wedd!

People looking in a mirror
Hello from the new-look National Lottery Heritage Fund!
Mae gennym enw newydd – Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'n bennod newydd i ni, er bod llawer o'r gwaith gwych a wnawn yn aros yr un fath.

Byddwn yn dal i fuddsoddi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn mewn prosiectau treftadaeth ysbrydoledig, mawr a bach, ledled y DU.

A byddwn yn dal i fuddsoddi arian y Loteri Genedlaethol yn holl ehangder ein treftadaeth amrywiol. O addoldai hanesyddol, cestyll, ac adeiladau ffatrïoedd a straeon lliwgar pobl, i barciau cyhoeddus, tirweddau naturiol a bywyd gwyllt brodorol.

Byddwn yn cadw pobl wrth wraidd yr holl brosiectau yr ydym yn eu hariannu-wedi'r cyfan, pobl sy'n dod â threftadaeth yn fyw ac sy'n ei gwneud yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Felly beth sydd wedi newid?

Caiff yr arian a fuddsoddwn bob blwyddyn, sef tua £200miliwn, ei godi drwy werthu tocynnau'r Loteri Genedlaethol. Rydym yn meddwl ei bod yn bwysig eich bod yn gwybod o ble yn union y daw'r arian. Felly, drwy gysoni ein brand yn agosach â'r Loteri Genedlaethol, rydym yn gobeithio y bydd yn helpu chwaraewyr i ddeall yn well y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw’n prynu tocyn.

"Mewn 25 mlynedd mae'r Loteri Genedlaethol wedi trawsnewid y DU."

Os ydych ar hyn o bryd yn cynnal prosiect a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael ar ein gwefan i'ch helpu i ymgorffori ein hunaniaeth newydd yn eich gwaith a'ch dulliau cyfathrebu yn y dyfodol. Dydyn ni ddim yn disgwyl i grwpiau a sefydliadau ddiweddaru pethau fel taflenni brand ar unwaith, ond yn eu lle pan fydd angen rhai newydd. 

25 mlynedd o wneud gwahaniaeth

Mae ein proses adnewyddu brand yn dechrau dathlu chwarter canrif o’r Loteri Genedlaethol. Cynhaliwyd y raffl gyntaf ym mis Tachwedd 1994, gyda thua £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer amrywiaeth o achosion da.

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mewn 25 mlynedd mae'r Loteri Genedlaethol wedi trawsnewid y DU. Mae strydoedd mawr hanesyddol a pharciau cyhoeddus wedi cael eu hadfywio; mae bywyd gwyllt brodorol wedi'i ddiogelu; mae ein hamgueddfeydd a'n hatyniadau diwylliannol o'r radd flaenaf; ac mae straeon ac atgofion wedi'u cadw. Ond y tu hwnt i'r miliwnyddion a grëwyd, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'i effaith ar ein bywydau bob dydd. Drwy roi brand y Loteri Genedlaethol a'n canolfan ein hunain, rydym yn gobeithio helpu i newid hynny."

Y pum mlynedd nesaf

Mae cyhoeddi ein hunaniaeth newydd yn rhan o'r gwaith o ddadorchuddio ein fframwaith cyllido strategol nesaf y Loteri Genedlaethol sy'n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.