Cyngor ar sut i hyrwyddo eich prosiect

Cyngor ar sut i hyrwyddo eich prosiect

Mae cael y cyfryngau i siarad am eich prosiect yn ffordd wych o adael i bobl wybod beth rydych yn ei wneud gyda'ch grant. Mae hefyd yn dangos i bawb sut mae arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio.

Pryd i gyhoeddi eich grant

  • Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich llythyr hysbysu grant mae croeso i chi gyhoeddi'r newyddion
  • Ar ôl i chi benderfynu ar ddyddiad cyhoeddi, rhowch wybod i ni

Datganiad i’r wasg

  • Rydym wedi darparu templedi datganiadau i'r wasg sy'n cynnwys yr holl eiriad cywir
  • Rhannwch eich datganiad i'r wasg gyda'ch swyddog grantiau cyn ichi gynllunio i'w anfon allan fel y gallwn ei gymeradwyo

Gyda phwy ddylwn i gysylltu?

  • Canfod pa gyfryngau sydd ar gael yn eich ardal
  • Mynd at newyddiadurwyr yn uniongyrchol. Gofyn i siarad â'r ddesg newyddion, neu, yn achos y radio a'r teledu, y ddesg blaen-gynllunio
  • Cyn i chi alw, cynlluniwch yn ofalus yr hyn rydych am i'w ddweud. Nid oes gan newyddiadurwyr lawer o amser, felly mae angen i chi fachu eu sylw yn gyflym
  • Sicrhewch bod eich datganiad i'r wasg yn barod i’w anfon drwy e-bost a'i ludo'n uniongyrchol i gorff yr e-bost

Cyfweliadau

  • Weithiau byddwch yn cael eich gwahodd i wneud cyfweliad i'r cyfryngau am eich prosiect
  • Cytuno ymlaen llaw pwy yw'r person gorau o'ch sefydliad chi i wneud cyfweliadau â'r cyfryngau
  • Meddyliwch am dri phwynt allweddol yr ydych am dynnu sylw atyn nhw
  • Cynlluniwch yr hyn rydych am ei ddweud ond dylech barhau'n hyblyg fel eich bod yn swnio'n naturiol ac yn frwdfrydig
  • Gallwch bob amser ofyn i'r newyddiadurwr pa fath o gwestiynau y gallent eu gofyn
  • Os yw'n gyfweliad radio, darganfyddwch os yw'n fyw neu wedi'i recordio ymlaen llaw
  • Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os ydych wedi llunio cyfweliadau gan y gallwn yn aml gynnig rhywun i rywun siarad hefyd
  • Cofiwch ganmol y Loteri Genedlaethol lle bo'n briodol yn ystod y cyfweliad

Bod yn weledol

  • Mae'r cyfryngau bob amser yn chwilio am ddelweddau diddorol, o ansawdd uchel sy'n tynnu sylw i ddod â’r stori'n fyw. Cofiwch anfon unrhyw luniau o ansawdd da sy'n ymwneud â'r prosiect ynghyd â'ch datganiad i'r wasg
  • Os oes elfen weledol gref i'ch prosiect gallech wahodd y cyfryngau lleol i dynnu lluniau yn eich prosiect (dim sieciau mawr na pheli Loteri os gwelwch yn dda!). Gallwch lawrlwytho y templed tynnu lluniau i'ch helpu. Mae eich datganiad i'r wasg yn barod i'w gyflwyno i newyddiadurwyr ar ddiwrnod tynnu lluniau. Hefyd, cofiwch rannu popeth ag unrhyw un na allai fynychu
  • Mae rhoi delweddau o'ch prosiect i ni yn un o amodau pwysig eich dyfarniad grant. Mae'n arfer da anfon lluniau atom drwy gydol oes eich prosiect
  • Defnyddio'r canllawiau ar waelod y dudalen i:
  • canfod beth rydym yn chwilio amdano mewn ffotograffau
  • sut gallwch chi gyflwyno delweddau i ni
  • sut rydym yn eu defnyddio
  • y camau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod gennych y caniatadau angenrheidiol ar gyfer y ddelwedd a ddarparwn i ni

Diweddaru’r cyfryngau

Yn aml, mae gan y cyfryngau ddiddordeb mewn gwybod pryd mae prosiect wedi gorffen neu mae carreg filltir arwyddocaol wedi'i chyrraedd – maen nhw'n hoffi digwyddiad agoriadol neu derfynol.

Ceisiwch gael aelodau o'r cyhoedd yno, yn cynnwys grwpiau cymunedol/ffrindiau ac ysgolion, enwogion lleol, Aeloadau Seneddol / Cynulliad lleol ac unrhyw fuddiolwyr.

Po fwyaf o bobl y gallwch ddod o hyd iddynt sy'n credu bod y prosiect yn wych, gorau oll fydd y sylw a gewch yn y cyfryngau.

Cysylltu â’ch Aelod Seneddol / Cynulliad

Cofiwch y gall fod cymorth lleol cryf fod ar gael drwy siarad â gwleidyddion, urddasolion neu Aelodau Seneddol / Cynulliad lleol.

  • Gwahoddwch nhw i gymeradwyo eich prosiect o fewn y datganiad i'r wasg drwy ddyfyniad, neu eu gwahodd i ddod draw i dynnu llun
  • Gweld a yw eich Aelod Seneddol / Cynulliad lleol ar Twitter ac os felly, trydarwch nhw gyda newyddion am eich prosiect
  • Os oes agoriad neu dderbyniad i'ch prosiect, ystyriwch wahodd eich Aelod Seneddol / Cynulliad lleol
  • Mae gennym dîm cysylltiadau'r Llywodraeth a'r Senedd all eich cynorthwyo gyda hyn

Cyfryngau digidol a chymdeithasol

  • Cofiwch gynnwys y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn eich gwaith cynllunio cyfathrebu
  • Rydym yn fwy na pharod i rannu gwybodaeth eich prosiect neu fanylion eich digwyddiad. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook a Instagram
  • Mae ein prif swyddfa yn defnyddio Twitter - felly cofiwch eu dilyn hefyd ar gyfer newyddion lleol, digwyddiadau, grantiau a gwybodaeth am Dreftadaeth. (Cynnwys Saesneg yn unig, cynnwys Cymraeg ar gael ar gyfrif trydar Cymru)
  • Sicrhewch bod eich gwefan yn gyfoes gyda'r newyddion a'r wybodaeth
  • Gallech hefyd sefydlu blog, tudalen Flickr neu dudalen Facebook i helpu rannu stori eich prosiect

Ymdrin â beirniadaeth

Yn yr hinsawdd bresennol, mae angen symiau mawr o fuddsoddiad i ddangos manteision clir i'r cyhoedd, ar lefel leol.

  • Cadwch mewn cof y sensitifrwydd lleol bob amser wrth gyhoeddi'ch grant
  • Sicrhau bod enw a disgrifiad eich prosiect yn adlewyrchu'r hyn y bydd yn ei gyflawni, ac nad ydynt yn swnio'n wamal
  • Osgowch gyhoeddi eich grant ar yr un pryd â darn mawr o newyddion 'drwg' lleol – fel toriadau mewn swyddi neu doriadau i wasanaethau

Rydym bob amser wrth law i roi cyngor ar ymdrin â sylw negyddol yn y cyfryngau. Fel arfer, mae ffordd effeithiol o reoli straeon yn y cyfryngau os gweithiwn gyda'n gilydd.

Cofiwch gadw mewn cysylltiad!

  • Rydym bob amser yn awyddus i glywed am unrhyw adegau allweddol a digwyddiadau drwy gydol oes eich prosiect. Rydym am eich helpu gyda hyrwyddo ym mha ffordd bynnag y gallwn
  • Anfonwch fersiwn terfynol o’ch datganiad i’r wasg atom ar gyfer ein cofnodion. Dylech hefyd anfon pob datganiad at eich swyddog grantiau
  • Rhannwch gerrig milltir eich prosiect, a’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd, yn ein cymuned ar-lein