Treftadaeth gymunedol

Treftadaeth gymunedol

Oedolion a phlant yn creu toriadau papur mewn gweithdy darlunio yn Newham
Gweithdy darlunio Llundain 2012, rhan o Fis Newham Heritage 2022. Llun gan: Andrew Baker
Gall dathlu ein treftadaeth gymunedol helpu ddod â phobl at ei gilydd, teimlo balchder yn y lle maen nhw'n byw a sicrhau fod straeon a thraddodiadau ar gof a chadw.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £520m i 26,700 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU

Beth rydym yn ei gefnogi?

Rydym yn helpu pobl i ymchwilio a rhannu hanes cymuned neu le.

Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cyfuno gwahanol fathau o dreftadaeth mewn lleoliad penodol.

Syniadau am brosiect

Gall ein harian helpu pobl i:

  • ymchwilio i effaith digwyddiad hanesyddol ar eu tref. Yna gallan nhw rannu eu canfyddiadau drwy arddangosiadau, sgyrsiau ac ar-lein
  • ymchwilio i'r enwau ar gofeb ryfel
  • gasglu dogfennau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r gymuned LGBT+, creu archif ar-lein ac arddangosfa
  • sefydlu llwybr sain o amgylch ystod o adeiladau, parciau a henebion mewn tref
  • galluogi grŵp ieuenctid i ymchwilio i'w hanes lleol a chreu ffilm wedi'i hanimeiddio am yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu

Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.

Sut i gael arian

Darganfyddwch os yw eich prosiect yn gymwys i gael arian.