Ardaloedd, adeiladau a henebion

Ardaloedd, adeiladau a henebion

Pobl yn cerdded i fyny grisiau i gastell â thyrwch
Castell Lincoln. Llun gan: Colin McLean Photography
Mae edrych ar ôl adeiladau hanesyddol, henebion ac archaeoleg yn sicrhau y gallwn ddiogelu'r lleoedd y mae pobl yn eu caru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £3.2bn i bron i 10,200 o brosiectau ardal, adeiladau hanesyddol a henebion ledled y DU.

Gall y prosiectau hyn helpu i gynnal swyddi, cefnogi twf economaidd a diogelu treftadaeth sydd mewn perygl. Gallan nhw hefyd hybu balchder lleol, meithrin sgiliau crefftau traddodiadol a helpu cymunedau i fwynhau'r lleoedd y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw a gwneud defnydd ohonyn nhw.

Beth rydym yn ei gefnogi?

Mae’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu yn cynnwys:

  • Cadwraeth ac atgyweirio adeiladau a mannau hanesyddol
  • Dod o hyd i ddefnyddiau newydd addas ar gyfer adeiladau hanesyddol
  • Prosiectau archaeoleg gymunedol

Mannau addoli

Mae addoldai ymhlith adeiladau hanesyddol hynaf a mwyaf clodwiw'r DU. Rydym am helpu cynulleidfaoedd i ddod yn wirioneddol wydn a'u hadeiladau'n wirioneddol gynaliadwy.

Mannau addoli yr ydym yn eu hariannu

Syniadau am brosiect

Gall ein harian helpu pobl i:

  • atgyweirio a thrawsnewid adeilad hanesyddol sydd wrth galon eu cymuned
  • helpu gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau cadwraeth adeiladau
  • achub adeilad ar gofrestr adeiladau mewn perygl
  • ymgymryd â phrosiect archaeoleg gymunedol
  • adfywio canol tref hanesyddol neu stryd fawr
  • edrych ar ôl a dysgu am gofeb ryfel leol

Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.

Sut i gael arian

Darganfyddwch os yw eich prosiect yn gymwys i gael arian.