Lansio Cronfa Argyfwng Treftadaeth i helpu'r sector

Lansio Cronfa Argyfwng Treftadaeth i helpu'r sector

The National Lottery Heritage Fund logo
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi cronfa o £50miliwn at ei gilydd i gefnogi'r sector treftadaeth fel ymateb ar unwaith i'r achosion o'r clefyd coronafeirws (COVID-19).

Bydd y Gronfa ledled y DU yn rhoi sylw i bwysau uniongyrchol dros y tri i chwe mis nesaf ar gyfer y sefydliadau hynny sydd â'r angen mwyaf. Mae'n agored i geisiadau tan 30 Mehefin.

Byddwn yn parhau i gefnogi mwy na 2,500 o brosiectau yr ydym eisoes wedi ymrwymo iddynt – sy’n fuddsoddiad o fwy na £1biliwn.

Dywedodd Eilish McGuinness, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cyflenwi Busnes, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rydym yn gwybod bod amgylchiadau yn heriol iawn i'n cymuned dreftadaeth ar hyn o bryd ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi. Rydym yn gobeithio y bydd y Gronfa Argyfwng newydd hon a'n buddsoddiad mewn gallu digidol yn achubiaeth i'r sefydliadau yr effeithir arnynt.

"Mae gan dreftadaeth ran hanfodol i'w chwarae wrth wneud cymunedau'n llefydd gwell i fyw ynddynt, gan greu ffyniant economaidd a chefnogi iechyd a llesiant.  Mae pob un o'r rhain yn mynd i fod yn hanfodol bwysig wrth i ni ddod o'r argyfwng presennol yma."

    Cronfa Argyfwng Treftadaeth

    Bydd y Gronfa gwerth £50m ar gael ar gyfer grantiau rhwng £3,000 a £50,000.

    Mae ar gael i sefydliadau ar draws yr ystod eang o dreftadaeth, gan gynnwys safleoedd hanesyddol, treftadaeth ddiwydiannol a morwrol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai, parciau a gerddi, tirweddau a natur.

    Gall sefydliadau sydd wedi cael arian yn y gorffennol ac sydd naill ai'n derbyn grant ar hyn o bryd, neu sy'n dal i fod o dan gontract yn dilyn grantiau blaenorol, wneud cais.

    Rhoddir blaenoriaeth lle gwelir:

    • ychydig neu ddim mynediad at ffynonellau eraill o gymorth
    • lle mae'r dreftadaeth yn y perygl mwyaf
    • os yw sefydliad mewn perygl o argyfwng ariannol difrifol o ganlyniad i COVID-19

    Canllawiau:

    Erbyn hyn, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar wneud cais am y Gronfa Argyfwng Treftadaeth.
    Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn:

    • sefydliad dielw, a
    • derbynnydd presennol neu flaenorol o grant yn uniongyrchol gennym, ac
    • yn berchennog, rheolwr neu’n gynrychiolydd ar dreftadaeth, neu'n gallu dangos eich bod wedi cyflawni gweithgarwch treftadaeth cyfranogol

    Y broses ymgeisio:

    Mae ymgeisio am Grant Argyfwng Treftadaeth yn wahanol i'r ffordd arferol o wneud cais am grant.
    Rhaid llenwi'r ffurflen mewn un cynnig, gan na ellir ei chadw a’i harbed. Mae'n bwysig eich bod yn paratoi deunydd eich cais cyn i chi ddechrau. 

    Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi:

    Ar ôl i chi wneud cais:

    • Byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi bod eich cais wedi'i gyflwyno.
    • Fel rhan o'r e-bost yma, byddwn yn anfon cyfarwyddiadau atoch ar sut i lanlwytho eich dogfennau ategol.
    • Cyflwyno unrhyw ddogfennau ategol drwy ymateb i'r e-bost. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn cyn gynted ag y byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau, i'n helpu i brosesu eich cais.
    • Byddwn yn gwirio bod manylion eich cais yn gywir.
    • Byddwn yn ystyried eich cais ac yn rhoi penderfyniad i chi o fewn pythefnos i bedair wythnos.
       

    Llu o gymorth ychwanegol

    Gwyddom fod y mwyafrif o sefydliadau treftadaeth yn wynebu gorfod cau dros dro, fydd yn cael effaith ddifrifol ar eu refeniw a phrinder staff. Mae llawer yn wynebu bygythiadau i'w dyfodol hirdymor. Mae canran fechan yn ofni na fyddant yn gallu para i'r haf.

    Dyma pam ein bod yn cymryd camau yn y tymor byr, canolig a thymor hir i gefnogi'r heriau sy'n eich wynebu a'r gallu i wrthsefyll ac adfer yn y tymor hwy.

    Yn ogystal â'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth, byddwn hefyd yn cefnogi'r sector yn y ffyrdd canlynol:

    • cyflymu'r broses o ddarparu ein menter sgiliau digidol gwerth £1.2miliwn ar gyfer treftadaeth i helpu'r sector drwy'r argyfwng a thu hwnt
    • drwy barhau i gefnogi'r 2,5000 o brosiectau rydym eisoes wedi ymrwymo i ariannu
    • drwy fod mor hyblyg â phosibl i'n grantïon presennol
    • darparu cyngor a chymorth pwrpasol
    • Ymrwymiad o £2miliwn i'n rhwydwaith o ymgynghorwyr ROSS yn y flwyddyn ariannol newydd. Byddwn yn cyfeirio'r cymorth hwnnw at sefydliadau sydd mewn angen. Wrth wneud hynny rydym hefyd yn helpu rhai cannoedd o bobl llawrydd a phobl hunan-gyflogedig.   
    • gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth, arianwyr eraill a sefydliadau treftadaeth i ddwyn ynghyd y gefnogaeth i'r sector
    • yn y tymor hwy, rydym wedi buddsoddi £4miliwn mewn dwy raglen datblygu menter  ledled y DU ar gyfer arweinwyr treftadaeth, a rhaglenni cymorth busnes ym mhob un o'r pedair gwlad. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn cyn bo hir.

    Oedi grantiau newydd

    Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng, rydym wedi gwneud y penderfyniad i atal pob cais am grant newydd ar unwaith.

    Bydd y Gronfa Argyfwng Treftadaeth yn cynnwys arian a ddargyfeirir o grantiau newydd.

    Grantiau Treftdaeth Gorwelion

    Bydd penderfyniadau ar ariannu'r Grantiau Treftdaeth Gorwelion yn cael eu gohirio o fis Mawrth 2020 i'r flwyddyn ariannol 2021-2022.

    Ni fyddwn yn agor rownd arall o gyllid ar gyfer Grantiau Treftdaeth Gorwelion.

    Ein hymateb

    Roedd ein hymateb yn seiliedig ar ymgynghori ar draws y sector, gan gynnwys mwy na 1,250 o ymatebwyr i'n harolwg.

    • Dywedodd 82% o'r ymatebwyr fod risg uchel neu gymedrol i hyfywedd hirdymor eu sefydliad
    • Ni all 46% o sefydliadau oroesi am ddim mwy na chwe mis
    • Roedd 75% o ymatebwyr am gael mwy o hyblygrwydd i brosiectau/grantiau presennol
    • Gofynnodd 53% am gyllid brys

    Y camau nesaf

    Dim ond y camau cyntaf yw hyn yn ein hymateb i achos y coronafeirws (COVID-19). Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau dros amser.

    Diolch i bawb a ymatebodd i'n harolwg ac i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad. Byddwn yn parhau i wrando arnoch, ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau.

    Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...