Dros £15 miliwn wedi'i ddyfarnu i warchod cynefinoedd yng Nghymru
O wlypdiroedd i goetiroedd, glaswelltiroedd i arfordiroedd, bydd y prosiectau'n helpu adeiladu rhwydwaith cryfach a mwy cydnerth o safleoedd gwarchodedig ar draws y wlad.
Bydd cymunedau’n cael eu hannog i gymryd rhan drwy weithgareddau prosiect a chyfrannu at adferiad byd natur ar raddfa’r dirwedd.
Cefnogaeth hirdymor i fyd natur
Bellach yn ei phumed rownd, daw'r ariannu o'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yr ydym yn ei chyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ers 2021 mae'r rhaglen wedi rhoi dros £54m o gefnogaeth i 147 o brosiectau ar draws Cymru.
Archwiliwch rai o'r prosiectau a ariannwyd
Whispers of the woodlands: saving the brown long-eared bat
Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yn derbyn £249,630 ar gyfer prosiect Cymru gyfan sy'n canolbwyntio ar gadwraeth yr ystlum clustiog brown, a elwir yn annwyl yn ystlum sibrwd.
Bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o reoli cynefinoedd coetir gwarchodedig, yn cynnal arolygon clwydi coed, yn gwella casglu data ac yn cysylltu pobl leol â bywyd gwyllt trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Botanical Futureproofing for Protected Sites in Wales
Bydd rhywogaethau planhigion bregus yn cael eu diogelu gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru diolch i grant o £823,320. Bydd y prosiect yn darparu offer hanfodol ac yn ehangu casgliadau fflora dan fygythiad a gedwir ym Manc Hadau Cenedlaethol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gwarchod dim ond 11% o fflora Cymru. Bydd yr ariannu hefyd yn cefnogi gwelliannau seilwaith i Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las 150 hectar ei maint, gyda dulliau pori sy'n llesol i natur mewn golwg.
Tir Morfa Wetland Connections
Mae WWT, yr elusen gwlypdiroedd, yn derbyn £548,406 i adfer cynefinoedd gwlypdiroedd hanfodol. Bydd y prosiect yn gwneud gwaith i WWT Llanelli a morlin Tir Morfa o'i gwmpas i wella amodau ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys adar gaeafu o bwys rhyngwladol, cysylltu pobl â byd natur ac adeiladu dyfodol sy'n gydnerth o ran yr hinsawdd ar gyfer ecosystem ehangach Cilfach Tywyn.
Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhan hanfodol o'n hymateb i'r argyfwng natur, ac mae'n ein helpu i greu Cymru fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am y Newid yn yr Hinsawdd
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am y Newid yn yr Hinsawdd: "Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i'n targedau rhyngwladol fel 30x30 sy'n cynyddu graddfa a chyflymder gweithredu gan helpu i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru. Trwy gefnogi'r prosiectau hyn, rydyn ni nid yn unig yn diogelu ecosystemau gwerthfawr ond hefyd yn grymuso cymunedau i ddod yn stiwardiaid dros eu hamgylcheddau lleol. Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhan hanfodol o'n hymateb i'r argyfwng natur, ac mae'n ein helpu i greu Cymru fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Gwarchod treftadaeth naturiol y DU
Gweler y rhestr lawn o brosiectau sydd wedi'u hariannu yn y rownd hon o ddyfarniadau'r Gronfa Rhwydweithiau Natur a chael gwybod sut rydym yn cefnogi byd natur ar draws y DU.