Canllawiau arfer da

Cyngor ac adnoddau i'ch helpu i gynllunio a chyflawni eich prosiect treftadaeth.

Rhestrwyd 19 o gyhoeddiadau arfer da.

Mynegai

C

  • Os byddwch yn derbyn grant gennym, mae rhai prosesau y disgwyliwn i chi eu dilyn pan fyddwch yn caffael nwyddau neu wasanaethau.

  • Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, rhaid i chi ddweud wrthym sut y byddwch yn ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.

  • Mae sefydliadau sy’n gynaliadwy ac yn wydn yn gallu addasu’n well i amgylchiadau newidiol a manteisio ar gyfleoedd newydd, gan arwain at fwy o effaith a gwaddol cryfach ar gyfer prosiectau treftadaeth.

  • Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi ymrwymo i gefnogi adferiad natur a chynaliadwyedd amgylcheddol ar draws ein holl weithgarwch. Disgwyliwn i'r prosiectau a ariannwn helpu i warchod yr amgylchedd.

  • Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi ymrwymo i gefnogi cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad. Disgwyliwn i'r prosiectau a ariannwn helpu pawb i archwilio a dysgu am dreftadaeth.

  • Mae cynllun busnes yn ddogfen sy'n disgrifio agweddau ariannol a threfniadaethol eich busnes. Mae'n canolbwyntio ar y sefydliad yn gyffredinol, nid gweithgareddau penodol, ac mae'n ofynnol fel rhan o'ch cais am ariannu.

  • Mae cynllun gweithgareddau'n nodi popeth y byddwch yn ei wneud fel rhan o'ch prosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol i ennyn diddordeb, tyfu ac arallgyfeirio'r gynulleidfa ar gyfer eich treftadaeth.

  • Mae rheoli a chynnal a chadw da'n hanfodol i ofal hirdymor safleoedd, casgliadau ac asedau treftadaeth. Gall rheoli a chynnal a chadw gwael roi eich treftadaeth mewn perygl ac arwain at gostau uwch yn y dyfodol.

  • Mae cynllunio cadwraeth yn broses a fydd yn eich helpu i ddeall eich treftadaeth a'i phwysigrwydd a sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gofalu a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.

D

  • Dehongli yw'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu storïau a syniadau am dreftadaeth i wahanol gynulleidfaoedd. Mae'n chwarae rôl hanfodol wrth helpu ymwelwyr i ymgysylltu â'n treftadaeth - yn ddeallusol ac yn emosiynol.

  • Waeth beth fo math neu faint eich prosiect treftadaeth, mae’n debyg y byddwch yn creu rhai allbynnau digidol. Mae’n bwysig bod y rhain yn bodloni amodau ein hariannu: argaeledd, hygyrchedd a naws agored.

  • Treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yw’r wybodaeth a’r traddodiadau a etifeddir gan genedlaethau blaenorol ac sy’n cael eu trosglwyddo i’n disgynyddion. Mae’n fath pwysig o dreftadaeth sy’n rhan o fywyd bob dydd mewn rhyw ffordd.

G

H

  • Hanes llafar yw recordio ac archifo atgofion, teimladau ac agweddau pobl. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ehangu'r cofnod hanesyddol i gynnwys ystod ehangach o bobl a'u profiadau.

  • Boed yn ffocws cyfan eich prosiect neu’n un elfen ohono, rydym am sicrhau ein bod yn ariannu hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion a blaenoriaethau treftadaeth, sefydliadau a phobl ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth hirdymor.

P

T

  • Treftadaeth naturiol yw rhan o’n treftadaeth hynaf, o ffosilau 150 miliwn o flynyddoedd oed i blanhigion a phryfed brodorol a fodolai ymhell cyn bywyd dynol. Ond mae’r DU yn un o’r lleoedd ar y Ddaear lle mae byd natur wedi’i disbyddu fwyaf gyda thuag un o bob chwe rhywogaeth dan fygythiad o ddifodiant.

W

  • Mae canran fawr iawn o’r prosiectau rydym yn eu hariannu yn cynnwys gwirfoddolwyr – rydym eisiau sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol pan fyddant yn gweithio gyda’ch prosiect treftadaeth.