Cymru: cyfarfod dirprwyedig Meh 2022

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Meh 2022

Rhestr o Benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig i Pennaeth Buddsoddi, Cymru ar 6 Meh 2022.

Teitl y Prosiect: Prosiect Treftadaeth a Llesiant Coedwig Gwydyr

Ymgeisydd: Golygfa Gwydyr

Crynodeb o'r Prosiect: Prosiect i ailgysylltu pobl leol â Choedwig Gwydyr, ei hanes a'i threftadaeth naturiol, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth a datblygu adnoddau ar gyfer llesiant cymunedol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £199,755 (100%)

 

Teitl y Prosiect: Cryfhau gwydnwch sefydliadol i adeiladu dyfodol cynaliadwy a chynhwysol i'n Treftadaeth Siartwyr a Gŵyl Gwrthryfel Casnewydd

Ymgeisydd: Ein Treftadaeth Siartwyr

Crynodeb o'r Prosiect: Prosiect 2 flynedd 6 mis sy'n canolbwyntio ar wydnwch i wella meysydd allweddol fel llywodraethu, sgiliau a hyfforddiant i ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr, a chynllunio gweithgareddau.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Teitl y Prosiect: Capel Libanus Ddoe a Heddiw

Ymgeisydd: Ffordd o Fyw Libanus (Cymru) C G C / Libanus Lifestyle (Wales) C I C

Crynodeb o'r Prosiect: Prosiect 12 mis i gyhoeddi llyfr am hanes eu hadeilad, yr hen Gapel Libanus yn y Coed Duon, a'r bobl a'i defnyddiodd.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Teitl y Prosiect: Pentredŵr - y gymuned ddoe a heddiw

Ymgeisydd: Cymdeithas Gymunedol Pentredŵr a'r Cylch

Crynodeb o'r Prosiect: prosiect i gynnal gweithdai yn gofyn i aelwydydd ymchwilio a chofnodi hanes eu cartrefi ym Mhentredŵr. Cyhoeddi llyfr a chreu cyfres o fyrddau arddangos yn ogystal â map rhyngweithiol ar-lein.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £8,894 (100%)

 

Teitl y Prosiect: Cyn Penparcau: Pen Dinas

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Cyf

Crynodeb o'r Prosiect: Prosiect i gynnal ymchwiliad archeolegol cymunedol i Ben Dinas, bryngaer o'r Oes Haearn, i egluro dyddio, cyflwyno a datblygu'r fryngaer yn raddol. Yn ogystal â rhaglen 2 flynedd o ddysgu a gweithgarwch creadigol gydag ysgolion a grwpiau cymunedol.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Teitl y Prosiect: O Le a Chof

Ymgeisydd: Plant y Gors

Crynodeb o'r Prosiect:  prosiect i gynnal ymchwil ar sawl eglwys segur yng Ngheredigion i ffurfio cyfres o weithdai creadigol mewn ysgolion lleol, i'w cyflwyno mewn oriel rithwir ac arddangosfa 2 fis fformat llyfr.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Teitl y Prosiect: Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls Cyfyngedig

Crynodeb o'r Prosiect: adeiladu cofnod parhaol a dathlu'r rheilffordd o Abertawe i Bier y Mwmbwls drwy greu llwybr cerdded ar hyd y llwybr gwreiddiol

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £36,019 (79.8%)