Penderfyniadau Pwyllgor Cymru Mehefin 2022

Penderfyniadau Pwyllgor Cymru Mehefin 2022

Rhestr o Benderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Cymru, 9 Mehefin 2022.

Rhestr o benderfyniadau

Enw’r prosiect: Canolfan Treftadaeth Iddewig Cymru

Ymgeisydd: Foundation for Jewish Heritage

Disgrifiad o’r prosiect: prosiect i ddatblygu cynigion i atgyweirio ac adfer synagog rhestredig Gradd II ym Merthyr Tudful. Sefydlu Canolfan Treftadaeth Iddewig Gymreig sy'n canolbwyntio ar y wlad yn yr adeilad sy'n cynrychioli stori genedlaethol pobl Cymru-Iddewig.

Penderfyniad: Dyfarnu cais am grant datblygu o £398,135 (70.95%) gyda grant cyflawni posibl o £2,999,332

 

Enw’r prosiect: A Museum of Two Halves

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Disgrifiad o’r prosiect: prosiect i ddatblygu cynigion i adnewyddu adeilad Gradd II Amgueddfa Wrecsam i amgueddfa hanes lleol rhannol ac amgueddfa bêl-droed genedlaethol gyda chyfleusterau gwell, a gosod storfa gasgliadau newydd oddi ar y safle, ochr yn ochr â rhaglen o weithgareddau lleol a chenedlaethol.

Penderfyniad: Dyfarnu cais am grant datblygu o £45,000 (12.02%) gyda grant cyflawni posibl o £2,078,873

 

Enw’r prosiect: Broneirion Walled Garden

Ymgeisydd: Mid Wales Food and Land Trust Ltd

Disgrifiad o’r prosiect: Prosiect 6 mis i ddatblygu cynigion i adfer Gerddi Muriog Broneirion Fictoraidd ac adeiladau cyfagos ystâd Broneirion. Creu gardd gymunedol a menter gardd farchnad gwbl weithredol i ddarparu cyfleoedd addysg ffurfiol a heb fod yn ffurfiol, cefnogi llesiant cymunedol ac iechyd meddwl.

Penderfyniad: Gwrthod